Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tywysogaidd braidd yn ei ymddangosiad,—ac yn hynod o foneddigaidd yn ei holl ymddygiadau, yn neillduol, pan ystyrir nad oedd erioed wedi troi ond mewn cylchoedd cwbl gyffredin. Fel pregethwr yr oedd yn nodedig o gymmeradwy. Meddyliasom laweroedd o weithiau wrth ei wrandaw, pe buasai wedi gwneuthur tegwch âg ef ei hunan, y buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd ac effeithiol a fagodd Cymru erioed. Ychydig iawn, beth bynnag, a glywsom ni yn ymddangos wedi eu cynnysgaeddu yn naturiol yn helaethach â'r cymhwysderau angenrheidiol ar y cyfryw rai. Yr oedd yn ei ymddangosiad yn un o "feistriaid y gynnulleidfa," a'i ystum bob amser yn weddaidd; yr oedd ei lais yn dyner a soniarus, a phan y codai i'r hwyl, a rhyw ymdoriadau ynddo nad oedd braidd yn bosibl dàl tano; yr oedd ei iaith yn ddillyn ac yn goeth, heb ddim yn tueddu at fursendod; siaradai yn naturiol ac eglur a rhwydd, heb byth golli meddiant perffaith arno ei hunan, gan fod y bregeth yn dra chynnefin iddo; yr oedd y bregeth hono bob amser yn gyfansoddiad rheolaidd a threfnus, yn cadw yn wastadol at hanfod yr efengyl, ond yn hytrach o nodwedd ymarferol; ac, yn neillduol, yr oedd rhyw ireidddra ieuangaidd yn ei ysbryd, a rhyw eneiniad braidd yn ddieithriad ar ei weinidogaeth, fel na byddai ond anfynych yn terfynu heb gael buddugoliaeth lwyr a chwbl dêg ar deimladau ei wrandawwyr. Yn wir nid oedd dim braidd mewn cysylltiad âg ef mwy hynod i ni na'r dylanwad rhyfedd fyddai gydâ'i bregethau, pan y gwyddem fod y rhai hyny agos mor gynnefin i'w gynnulleidfa ag oeddent iddo ef ei hunan, yn neillduol i'r Pregethwyr a'r Blaenoriaid yn y Cyfarfod Misol. Nid oedd nifer ei bregethau erioed yn fawr; ac fel yr oedd yn heneiddio yr oeddent yn lleihau; ac felly byddai dan angenrheidrwydd i bregethu yr un rhai yn fynych, fynych. Dyna ei fai mawr ef fel pregethwr. Rhoddes heibio, ryw fodd neu gilydd, pan mewn cymhariaeth ond ieuanc, gyfansoddi pregethau newyddion, a syrthiodd yn gymmaint i'r arferiad o draddodi yr hen rai drosodd a throsodd, fel y collodd, cyn bod yn haner cant oed, bob gwroldeb i gynnyg ar destyn newydd, hyd yn nod yn y lle lleiaf a chyda'r gynnulleidfa fwyaf cyffredin. Clywsom ef ein hunain yn fynych yn cwyno o herwydd hyn. "Mi fyddaf fi," meddai, "yn cael, ac yn dywedyd, llawer o bethau newyddion; ond y mae yn rhaid i mi gadw at yr hen destyn, a cheisio plethu pob peth newydd fyddaf fi yn gael, goreu y gallaf, â rhyw hen bregeth."