Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond er hyn oll, yr oedd rhyw newydd-deb diheneiddio bob amser ar y bregeth yn nheimladau ei wrandawwyr.

Yr oedd efe yn gwir ofalu am yr achos mawr, yn ei holl ranau, yn enwedig yn Lleyn, ac edrychid arno gyda pharchedigaeth annghyffredin gan bob graddau yn y parth hwnw o'r wlad. Esgob Lleyn y gelwid ef yn fynych; ac yr oedd yn teilyngu yr enw yn gyfiawn. Yr oedd yn "fab tangnefedd" yn mha le bynnag y byddai. Y mae yn wir y gwyddid yn lled dda pa ochr a gymerai mewn dadl ar unrhyw gwestiwn fyddai yn rhanu y rhai a gyfrifid yn ddiwygwyr oddiwrth yr hen ddosbarth; a gallai, weithiau, ddywedyd geiriau a deimlid yn lled bigog; ond, ar y cwbl, cymhedrol iawn ydoedd, ac am, os gellid mewn un modd, gadw pob peth yn dawel. Yn ngwyneb profedigaeth go gref y ceid ef yn colli dim mewn tymher; a chlywsom ni ef ein hunain, amryw weithiau, yn cwyno na buasai ei hen gyfaill o Dremadoc yn gallu llywodraethu ei hunan yn well, pan y deuid tu fewn i derfynau dadl. Yr oedd yn anwyl iawn yn mhlith ei holl frodyr, ac yn myned yn fwy-fwy iraidd ei ysbryd, od oedd modd, fel yr oedd yn tynu tua'r diwedd. Bu farw mewn tangnefedd, Hydref 12fed, 1851, yn 73 mlwydd oed. Yr oedd wedi bod yn proffesu crefydd am 60 mlynedd, ac yn pregethu yr efengyl am dros hanner can' mlynedd. Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig.

Un arall, mwy adnabyddus nag ef allan o'i wlad ei hunan, ac un a deimlid, feallai, yn bwysicach yn nghynnulliadau neillduol y Cyfarfod Misol, oedd Mr. William Roberts, Clynog. Yr oedd efe fel gwladwr yn barchus iawn, ac yn cael ei gydnabod yn mhlith ei frodyr fel un oedd wedi casglu mwy o wybodaeth gyffredinol, ac yn fwy cyfarwydd a'r ysgrythyrau sanctaidd, nag odid un o honynt. Yn neillduol, yr oedd wedi darllen, ac wedi trysori yn ei gôf, lawer iawn ar hanesyddiaeth y cynoesoedd ac oesoedd diweddarach; hanes bresennol amrywiol wledydd y byd, o ran eu sefyllfa, eu maintioli, eu poblogaeth, eu ffurf lywodraethau, eu harferion a'u defodau cymdeithasol, eu crefyddau, eu cysylltiadau trafnidiol â gwledydd ac â theyrnasoedd ereill,pob peth braidd yn eu cylch,-yr hyn a roddai fantais ddirfawr iddo ar ei holl hen frodyr mewn rhyw gwr neu gilydd braidd o bob Cyfarfod Misol. Yr oedd, yn arbenig, wedi astudio yn fanwl holl hanes y genedl Iuddewig, ac yn cymmeryd dyddordeb mawr ynddi. Yr oedd holl waith Josephus fel ar flaenau ei fysedd; a Basnage's History of