Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddangos i'r gynnulleidfa fel yn darllen, pan na byddai, mewn gwirionedd, ond yn adrodd o'i gôf. Eithr yr oedd yn gwneuthur hyny mor gywir, fel nas gallai y sawl y byddai y llyfr yn agored o'i flaen prin ganfod un gwall ynddo. Pa fodd bynnag, fe ddygwyddai rhai pethau lled ddigrifol, weithiau, yn gysylltiedig a hyny. Yr ydym yn cofio yn neillduol am dro felly, mewn Cyfarfod Cenhadol yn Liverpool, ryw brydnawn ar ddydd Llun y Sulgwyn. Yr oedd yr hen frawd yn dechreu y Cyfarfod trwy ddarllen y driugeinfed bennod yn llyfr y prophwyd Esaiah. Ond, ar ganol y darlleniad, taflwyd un brawd, nad oedd yn dueddol iawn i ddim o'r fath, i chwerthiniad anorchfygol—yn gymmaint felly fel y teimlodd y byddai yn well iddo ymneillduo am ychydig fynydau oddiar yr esgynlawr. Wrth fyned allan, a heibio i ni, dywedai yn ein clust fod yr hen ŵr yn darllen yn Esaiah a'r Bibl yn agored o'i flaen yn llyfr Job, a bod gweled yr hen ŵr yn darllen felly yn fwy nag a fedrai efe ddal. "Beth sydd?" meddai ein hen dad o Amlwch wrthym. Wedi hysbysu iddo, ymddangosai yn syn ac yn gwbl sobr fel arferol." Beth sydd?" meddai Mr. Cadwaladr Williams wrtho yntau. Can gynted ag y clybu Mr. Williams, dechreuodd fwmial yn dra digrifol, a pharhäodd o hyny hyd ddiwedd y bennod, er ychydig ymwared iddo ei hunan, yn porthi y darlleniad â rhyw ebychiadau rhyfedd iawn. Erbyn hyn, yr oedd Mr. Roberts, Amlwch, fel rhwng dau dân, ac yn ymddangos mewn cryn drafferth yn ceisio cadw ei hunan rhag chwerthin yntau: a'r diweddar Mr. Hughes, Liverpool, wedi ymollwng i gryn ysgafnder wrth weled profedigaeth ei gyfaill difrifol o Fôn. Ymwared mawr mewn gwirionedd i bawb ar yr esgynlawr oedd diwedd y bennod. Yn y cyfamser, yr oedd Mr. Rees wedi aros yn un o'r eisteddleoedd islaw hyd ddiwedd y weddi, ac ni wyddai y rheswm am hyn oll. Wedi dybenu y Cyfarfod, a thra wrth y bwrdd mewn tŷ gerllaw, gofynodd Mr. Rees i Mr. Roberts," Mewn difrif, beth oedd arnoch chwi i gyd ar y platform yna heddyw, pan oedd yr hen ŵr yn darllen?" "Chwi gawsoch drugaredd fawr o beidio a chael gwybod y pryd hwnw beth oedd arnom," meddai yntau. Yna fe adroddodd iddo yr hanes. Dechreuodd Mr. Rees a synu at gôf rhyfeddol yr hen ŵr, gan wneyd rhyw sylwadau ar hyny. Ond yn fuan, pan oedd pawb yn ddistaw, dyna ochr ddigrifol yr amgylchiad yn taro Mr. Rees, ac yn enwedig ebychiadau hynod Mr. Cadwaladr Williams, fel y torodd yntau allan i chwerthin yn galonog iawn.