Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yr hen frawd o Glynog o wasanaeth mawr yn y Cyfarfodydd Misol, ac yn eu dilyn yn ffyddlawn ar hyd ei holl oes gyhoeddus. Yr oedd yn un o synwyr cyffredin cryf, ac o farn nodedig o gywir ar bob achos a ddygid ger bron; ac er y byddai yn lled hwyrfrydig i draethu ei feddwl ar gwestiynau a fyddent yn debyg o arwain i ryw deimladau annghysurus, eto pan y gwnai, yr oedd yn gallu gwneyd hyny yn dra didramgwydd i bawb. Yn y cynnulliad am wyth, wedi gwneyd hwnw yn un rhydd i'r aelodau cyffredin, fe ddaeth ei allu yn arbenig i'r golwg. Yr oedd mor barod a chyflawn ar bob mater, fel, er na byddai wedi cael ond ychydig oriau o rybudd am yr hyn oedd i fod dan sylw, y gallesid tybied ei fod wedi bod ddyddiau neu wythnosau yn ymbarotoi ar ei gyfer. Yr oedd un nodwedd ar ei sylwadau mewn cyfarfodydd felly na ddarfu i ni ond yn anaml, os un amser, graffu arno yn ei bregethau, a hyny ydoedd, y defnydd parod a dedwydd a wnelid ganddo o'r amrywiol hanesion oeddent yn ei gôf er egluro y pwnc a fyddai dan sylw. Er enghraifft,-pan oeddid unwaith yn ymddiddan ar fuchedd sanctaidd fel prawf o wirionedd bendith i'r meddwl yn yr ymarferiad â moddion gras, yr ydym yn cofio yn dda yr effaith a gynnyrchwyd ganddo trwy yr eglurhad canlynol:—"Yr oedd yn y daith acw ryw Sabbath un yn pregethu ag yr oeddwn i yn meddwl cryn lawer o hono. Pan oeddwn i yn dychwelyd yn ôl o'm cyhoeddiad ddydd Llun, mi a welwn ryw wraig—chwaer grefyddol o'r gymmydogaeth acw—yn golchi gwlan mewn rhyw afon. Wel, hon neu hon,' meddwn i, 'sut Sabbath gawsoch chwi yma ddoe?' Oh!' ebe hithau, ni a gawsom Sul gogoneddus ddoe; yr oedd yma bregethu annghyffredin.' Yr oeddwn i yn dysgwyl hyny,' meddwn innau; Beth oedd y testyn?' Wedi meddwl tipyn, Yn wir,' meddai, nid ydwy' i ddim yn cofio y testyn.' 'Beth oedd o yn ddweyd, ynte?' meddwn innau. Wedi meddwl tipyn drachefn, 'Yn wirionedd i,' meddai, 'yr ydwy' i yn methu cofio dim yrwan.' 'Mae arnaf i ofn,' meddwn innau, na chawsoch chwi ddim llawer o fendith, wedi'r cwbl, gan nad ydych yn gallu cofio dim.' 'Na, ni wn i ddim, William Roberts, a ydych chwi yn iawn fan yna,' meddai hithau. Welwch chwi y ddau wlan yma,'—gan gyfeirio at y ddau bentwr, un wedi ei olchi a'r llall heb ei olchi—'y mae y naill mor sych a'r llall, nid oes dim dwfr yn yr un o honynt, yrwan: ond y mae ôl y dwfr er hyny ar hwn, nid oes dim ar hwn. Felly finau: ryw sut y mae y cwbl yrwan wedi myned o fy