Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghóf i; ond yr ydwy' yn gobeithio y bydd tipyn o ôl y bregeth ddoe arna' i byth.' Ni ches i 'mo fy ngwneyd gymmaint erioed," meddai yr hen frawd; ac, yna, aeth rhagddo i ddangos fel y mae y Bibl bob amser yn cydio bendith a Sancteiddrwydd. Buasem yn hoffi aros yn hir gyda'i goffadwriaeth ef, ond y mae yn rhaid i ni ymattal. Bu farw, Hydref 14, 1857, yn 84 mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu yr efengyl tua thair blynedd-ar-ddeg a deugain.

Un arall oedd yn nghanol ei nerth, ar yr adeg y cyfeiriwn ati, oedd Mr. Daniel Jones, Llanllechid. Ychydig ran a fyddai efe yn gymmeryd yn yr ymdriniaeth a'r amrywiol achosion a fyddent dan sylw yn y Cyfarfodydd Misol, ond yr oedd yn eu dilyn yn ffyddlawn, ac yn nodedig o barchus yn mhlith ei frodyr; ac fel pregethwr, yn ei ddyddiau goreu, yn neillduolrwydd ei ddawn, yn sefyll yn hollol ar ei ben ei hun yn nghanol holl bregethwyr Cymru. Er nad oedd erioed wedi cael dim manteision addysg, ac, nad oedd dim nerth mawr yn ei feddwl, yr oedd rhyw awdurdod yn a dylanwad gyda'i weinidogaeth, nas gall y rhai a'i clywsant byth ei annghofio. Yr oedd y fath ddifrifoldeb yn ei ymddangosiad; y fath ddwysder pruddaidd, ac ar amserau, agos annaearol yn ei lais; y fath wedd daranllyd ac argyhoeddiadol ar ei bethau; fel y byddai y cynnulleidfaoedd yn gwelwi ac yn crynu ger ei fron, a chanlyniadau llwybrau pechadurus wedi eu dwyn megis sylweddau byw i deimladau ei wrandawwyr. Y mae yn ammheus genym a fu neb yn ei oes yn fwy llwyddiannus nag ef i arafu annuwiolion yn eu ffyrdd drygionus, a'u dwyn i ddechreu meddwl am eu diwedd. Yr oedd ganddo ryw allu annghyffredin i'w wneyd ei hunan yn eglur, yn hyny, i ddeall y rhai mwyaf anwybodus yn y wlad. Byddai weithiau yn cam-gymhwyso ei destynau yn ddirfawr, er mwyn cael yn ei destyn ryw air neu eiriau nodweddiadol, y gallai gydio ynddynt, a'u gwthio i feddyliau ei wrandawwyr er sicrhau ei amcan mawr ac ni byddai braidd byth yn aflwyddo i gynnyrchu teimladau dwfn a dwys, ac yn fynych gyffröadau aruthrol, yn eu plith. Rhyw un drych-feddwl fyddai ganddo ef yn wastad, heb braidd byth amcanu at nodi penau—cyntaf, ail, a thrydydd,―ond yn peri i'w holl sylwadau droi o amgylch yr un meddwl cyffredinol, yr amcanai, ar y pryd, wneyd cartref iddo yn meddyliau a chalonau y bobl. Nis gallwn byth annghofio un tro hynod iddo, mewn Cymmanfa yn y Bala, yn y flwyddyn 1887. Yr oedd yn pregethu yn olaf yn yr oedfa am 6 yn y