Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymdeithasfa Llangeitho—taith drachefn i Sir Fôn—Cymdeithasfa Caergybi—Cymdeithasfa Llanrwst—taith drachefn trwy Siroedd Dinbych a Fflint—ei daith gyntaf i Siroedd Brecheiniog, Morganwg, a Chaerfyrddin—Cymdeithasfa Penybont—ar—ogwry bregeth yn gorchfygu y Ffair Wagedd yn Abertawy—Mr. Elias ac yntau yn Llanymddyfri—pregethu am y tro cyntaf yn Nghymdeithasfa y Bala, 1827— Cymdeithasfa Amlwch—Sabbath hynod yn Mangor—ymweliad â Liverpool a Manchester—Cymdeithasfaoedd Beaumaris a Dolgelleu, 1827—Cymdeithasfa Bangor, 1828—ei ymweliad cyntaf â Llundain—nodwedd fwy ymarferol ar ei bregethau ei ordeiniad.

PENNOD IX.

YMRODDIAD I LAFUR GWEINIDOGAETHOL CYFLAWN: 1829—1833.

Yr Ordinhadau Arwyddol yn destyn efrydiaeth arbenig—Cymdeithasfa Llangeitho, 1829 llafur Sabbothol yn cynnyddu—teithio llawer i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Pregethu—Cymdeithasfa Beaumaris—Dolgelleu—pryder meddwl oblegyd aflwyddiant ei weinidogaeth—ceisio cael allan oedd dim diffyg yn y modd y cyflawnid hi—taith i Sir Fôn, 1830—ymweliad â Liverpool a Manchester—Cymdeithasfa y Wyddgrug, 1830—y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris—taith i Sir Feirionydd—i Siroedd Dinbych a Fflint—mwy cartrefol yn 1831—Cymdeithasfa Llangeitho, 1831Cymdeithasfaoedd Beaumaris a Dolgelleu eto—Cymdeithasfa Llanrwst—taith i Sir Drefaldwyn—taith eto i Sir Fôn—oedfa hynod yn Nghyfarfod Misol Llangefni— Cymdeithasfa y Bala, 1832—Cymdeithasfa Llanerchymedd—dyfodiad y Cholera i'r Deyrnas ac i Gymru am y tro cyntaf ymdrech egniol yn erbyn llygredigaethau yr oes—Diwygiad mawr yn tori allan yn Sir Gaernarfon, ac yn ymdaenu trwy y gwledydd.

PENNOD X.

BLYNYDDOEDD DECHREUAD CYFNEWIDIAD YN NGWEDD EI WEINIDOGAETH :1833—1840.

Agwedd isel ar grefydd yn y wlad ar ol yr adfywiad—cynnydd dirfawr ar annuwioldeb—diofalwch Crefyddwyr—adroddiad o'i deimladau ei hunan yn ngwyneb hyneffeithiau hyny arno—ymdeimlad dwys â'r pwysigrwydd o roddi pob mantais i'r Efengyl wrth ei chyflwyno ger bron y byd—Cymdeithasfa y Bala, 1834—pregethu ar "Ddammeg y Ffigysbren Diffrwyth "—ffurf ei bregethau, fel cyfansoddiadau, yn newid yn dyfod yn wrthddrych eiddigedd rhyw rai rhagfarnllyd—cymmeradwyo Scott ar y prophwydi—ei bregethau yn dyfod yn fwy—fwy cyfeiriadol—Cymdeithasfa y Bala, 1835—traddodi yr araeth ar Natur Eglwys yno—pregeth hynod Mr. Elias yno—pregeth Mr. John Jones—y Cyfarfod am wyth drannoeth—sylwadau Mr. John Jones yn cyffroi Mr. Elias—Mr. Ebenezer Richard yn cyfryngu—pregeth Mr. Elias yn Nghymdeithasfa y Bala, 1836—ymdrechiadau Mr. John Jones gyda'r achos Dirwestol—yn dyfod yn fwy gobeithiol nag y buasai am Gymru Cymdeithasfa y Wyddgrug, 1837—ymweled & Llundain at y Pasg, 1838—llythyr at gyfaill