Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bore, ar y Green. Ei destyn oedd Job xx. 7. "Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?" Wedi ychydig sylwadau-fod pob dyn wrth natur yn golledig; fod trefn wedi ei darpar a'i gweithio i gadw; fod modd yn Sassiwn y Bala cadw yr annuwiol; ond ei fod yn ofni am lawer o'r "llanciau bach" oeddent o'i flaen eu bod yn gwrthod y drefn hono ac yn mynu parhau yn annuwiol; ac, os felly, nad oedd dim yn eu haros ond cael eu colli-colli na byddai modd cadw byth—fe lithrodd yn naturiol at ei bwnc: "Yr annuwiol wedi ei golli." O hyny, hyd y diwedd, nid oedd y bregeth ond ymchwil am yr annuwiol wedi ei golli. "Efe a gollir" "Pa le y mae efe?" Aeth yn gyntaf i chwilio am dano yn y gwaith yn y gloddfa yn Ffestiniog—ar y caeau tua Phenllyn—yn y gweithdŷ yn y Bala—" Ydyw hwn neu hwn yma?" "Nag ydyw: fe fu yma am flynyddoedd ac yn ddigon mawr ei drwst; ond yr ydan ni wedi golli o. Dydi o ddim yma er's misoedd." "Efe a gollir." "Pa le y mae efe?" Yna aeth i'w deulu i chwilio am dano. "Ydyw hwn neu hwn yma?" "Na, yr ydan ni wedi golli o er's misoedd: fe fu i ffwrdd yn fynych, ar ei derm am wythnos neu fwy; ond fe fyddai yn dwad yn ôl o bob man tan 'rwan: ac fe fyddai yn well ganddo ni ei wel'd o yn dwad yn ôl er y bydda fo yn dwad yn feddw; ond yrwan yr ydan ni wedi golli o, ac y mae arno' ni dipyn o hiraeth am dano, a llawer o ofn yn ei gylch o." "Efe a gollir." "Pa le y mae efe?" Yna fe aeth tua'r Capel, i holi y bobl yno am dano. "Fyddwch chwi ddim yn gweled hwn neu hwn weithiau?" "Na fyddwn ni yrwan: fe fyddai yn dwad yn o aml, ac yn eistedd yn yr ail seat yn y Gallery ar y llaw ddê i'r pregethwr, ac yn edrych yn bur galed a dideimlad ac anystyriol. Ond yr ydan ni wedi golli o er's misoedd." "Efe a gollir."— "Pa le y mae efe?" Yna, fe aeth o'r naill dŷ tafarn i'r llall—y Bull, y Red Lion, y Goat, y Swan,—gan holi yn y rhai hyny,—"Ydyw hwn neu hwn yma?" "Nag ydyw: fe fu yma yn aml, yn aros yma yn hir ac yn cadw digon o sŵn, ond yr ydan ni wedi golli o er's misoedd, wyddom ni ddim am dano." "Efe a gollir." "Pa le y mae efe?" Yna fe aeth tua'r nefoedd—ac a gurodd wrth ei drws. "A ydyw hwn neu hwn, fel ar fel, o'r fan a'r fan, yma? yr ydan ni 'n methu gael o yn un lle tua'r ddaear acw." "Nag ydyw: 'dydi o ddim yma; ni ddaeth neb erioed yr un fath ag o yma; ac ni ddaw yma yr un byth." "Efe a gollir." "Pa le y mae efe?" "Wel, y mae yn ofer chwilio am