Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dano; dydi o ddim yn bod; mae o wedi ei ddiddymu. Na, aroswch. Y mae un lle eto yn bod; gadewch i ni fyned yno i chwilio am dano." Ac yna fe aeth, gan gymmeryd y gynnulleidfa gydag ef, tuag uffern: ac wedi cyrhaedd y porth, fe waeddodd, â rhyw oslef ofnus yn ei lais, "ydi hwn neu hwn yma?" ac yna dyna ryw lêf annaearol ofnadwy yn ateb," Ydi y mae o." "Yn mh'le y mae o?" " Yn y lle tywylla', tywylla' yna." "Be ydi hi o'r gloch yna?" "Hanner nos!" "Ydi hi'n goleuo dim?" "Hanner nos! mae'r clock wedi sefyll !" "Efe a gollir." Erbyn hyn yr oedd yr effeithiau ar y gynnulleidfa fawr yn annysgrifiadwy. Yr oedd pawb fel wedi eu meddiannu â dychryn; amryw wedi syrthio i lewygfeydd; a lliaws yn gwaeddi allan am eu bywyd. Er mor ofnadwy y drychfeddwl ar ba ̧ ir, mae yn anmhosibl un adroddiad fel hyn roddi dim darluniad o'r bregeth. Rhaid cofio am Daniel Jones—ei ymddangosiad—ei sobrwydd—ei lais a'r rhwnc ynddo ei spectacles—y cwbl a berthynai iddo —tuag at gael un syniad cywir am yr hyn a welid, a glywid, ac a deimlid, gan filoedd, y bore hwnw, yn y Bala.

Nid ydyw hyn ond un enghraifft allan o amryw sydd ar ein côf ni am dano. Y mae ei hen wrandawwyr yn cofio yn dda am y bregeth ofnadwy a'r "Efe a gau ar ŵr, ac nid agorir arno:"—Duw yn cau; un arall gyffelyb ar, "Am hyny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi:"—Dyn yn lithro dros y dibyn—y bachgen yn llithro ar dô y tŷ, yn myn'd dros y fargod ac yn cael clenc; un arall ar," Diwedd yr hon yw ei llosgi:" Dyn yn myned ar dân; un arall ar, "Beth yw yr ûs wrth y gwenith?" —Yr ûs a'r gwenith—yr ûs yn tyfu gyda'r gwenith, yn agos ato, yn gysgod iddo: ond, fel y mae y gwenith yn addfedu, yn ymryddhau oddiwrtho, ac yn raddol yn ymbellhau; dan y ffust, ddiwrnod y dyrnu, dyna nhw wedi eu gwahanu; a boreu y nithio dacw nhw yn cael eu hysgar am byth oddiwrth eu gilydd; ac amryw bregethau ereill o'r un nodwedd. Ond y mae yn rhaid i ni eto ymattal. Nid oedd odid bregethwr yn y Cyfundeb fyddai yn meistroli teimladau John Jones yn fwy na Daniel Jones. Yr ydym yn ei gofio yn dywedyd wrthym ryw bryd, ar ganol yr oedfa, mewn Cyfarfod Misol yn Nhremadoc, pan yr oedd Daniel Jones wedi cael tro hynod iawn, "Mae yn dda gen i mai Dafydd sydd i bregethu ar ei ôl, ac nid y fi. Ni fedraf fi ddim dal dano fo. Mae o yn fy ngorchfygu fi bob amser." Bu farw