Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyflawn o dangnefedd yr efengyl, Mawrth 16, 1852, yn 71 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am hanner can' mlynedd. "Llaweroedd a drodd efe oddiwrth anwiredd."

Mae yr adgofion hyn wedi ymestyn yn llawer hwy nag yr amcanem iddynt, ond byddai yn anfaddeuol ynom fyned heibio heb wneuthur crybwylliad byr am un arall o'r hen frodyr anwyl oeddent yn yr un cylch, ar y tymhor y daethom ato yn hanes gwrthddrych ein Cofiant,—Mr. Lloyd, Caernarfon. Yr oedd efe wedi derbyn ei ddysgeidiaeth a'i raddau yn Rhydychain, ac yn ysgolhaig Lladin a Groeg rhagorol, yn enwedig Lladin; ac wedi derbyn urddau gweinidogaethol yn Eglwys Loegr. Ond yr oedd, ar y pryd, yn gwbl ddigrefydd, ac yn ymroddi hyd yn nod wedi ei ordeinio i fywyd o oferedd. Eithr fe gafodd droedigaeth amlwg. "Duw yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd," fel y bloeddiai yn fynych, "oherwydd ei fawr gariad" a ymwelodd âg ef, a gwnaed ef yn greadur newydd yn Nghrist Iesu. Erbyn hyn yr oedd ysbryd newydd yn ei weinidogaeth, a'r llanau plwyfol, yn y rhai y pregethai, yn cael eu llanw â gwrandaẅwyr. Yn fuan wedi y cyfnewidiad hwn, ymunodd â'r gymdeithas eglwysig oedd mewn cysylltiad a'r Methodistiaid yn Rhosgolyn, yn agos i Gaergybi, ac yn fuan wedi hyny, fe'i gwahoddwyd i'r Cyfarfod Misol yn Sir Fôn. Nid oedd y Methodistiaid eto wedi gadael yr Eglwys yn ffurfiol; ac yr oedd efe, ar y pryd, yn tybied y gallasai fod fel yr oedd Mr. Jones, Llangan, Mr. Griffiths, Nevern, ac ereill, yn y Deheudir, mewn undeb â'r Methodistiaid, a pharhau i gadw ei le yn yr Eglwys wladol. Dechreuodd ymroddi i bregethu, yn ystod yr wythnos mewn tai annedd, ac yn y Capeli yma a thraw, yn Sir Fôn, lleoedd annghysegredig gan un esgob, ac felly annghymhwys, yn nghyfrif eglwyswyr yr oes hono, i bregethu ynddynt. Achwynwyd arno wrth yr esgob. Ond yr oedd Mr. Lloyd wedi penderfynu, os byddai raid, ymadael â'r eglwys yn hytrach na thori ei gysylltiad â'i gyfeillion newydd. Ac felly y bu. Tua'r flwyddyn 1805, fe'i tröwyd ef allan o'r eglwys. Gan nad oedd ond dau o wŷr urddedig yn Eglwys Loegr, mewn cysylltiad ar y pryd â'r Cyfundeb yn Ngogledd Cymru, ac nad oedd neb o'u plith eu hunain eto wedi eu neillduo i'r holl waith, fe annogwyd Mr. Lloyd gan y brodyr i ymroddi i lafurio felly, yn enwedig yn Siroedd Môn ac Arfon, fel yr oedd Mr. Charles a Mr. Lloyd o'r Bala eisioes yn gwneuthur. Ond yr oedd efe yn meddwl yn rhy isel o hono ei hunan i hyny. Nid ystyriai