Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hunan yn gymhwys i ddim o'r fath. Yr oedd yn foddlawn i bregethu ychydig, fel y gallai, a gweinyddu yr ordinhadau, os gelwid arno, ar y Sabbathau, ond yn benderfynol i wneyd rhywbeth arall yn ystod yr wythnos, tuag at ei gynhaliaeth. Wedi peth amser, dechreuodd gadw ysgol. Llafuriodd yn ddiwyd gyda hono hyd nes y priododd, pan ydoedd yn 55 mlwydd oed. Ar ol hyny rhoddes yr ysgol i fyny, ac ymroddodd yn llwyrach am y gweddill o'i oes i wasanaethu yr achos mawr.

Er, oblegyd gostyngeiddrwydd diledrith ei galon a'i ymwybodolrwydd o fychander ei ddawn, na cheid ganddo ef braidd un amser ddywedyd gair yn y Cyfarfod Misol, oddieithr ei gymhell yn daer i hyny, eto byddai hyd yn nod ei bresennoldeb yno yn rhywbeth ag y teimlid oddiwrtho, ac yn sicrhad na byddai dim, os gallai ef, yn myned yn mlaen ond mewn brawdgarwch a thangnefedd. Pan y cyfodai i wneyd rhyw sylw, naill ai wrth ymddyddan â brawd am ei brofiad, neu ar ryw fater neillduol yr ymdrinid ag ef, byddai arogledd sanctaidd yn wastadol ar yr hyn a ddywedai. Yr oedd yn cymdeithasu cymmaint ag ef ei hunan yn ei drueni a'i anheilyngdod, ac âg Iesu Grist "wedi ei wneuthur i ni gan Dduw yn gyfiawnder "—fel y byddai yn ddifyr gweled mor naturiol y byddai yn llithro at Iesu Grist, ac fel y byddai yn gwerthfawrogi y drefn drwyddo am fywyd. "Wedi ei wneuthur i ni gan Dduw "—"Ie, frawd bach, ie, gyfeillion bach, ïe, frodyr anwyl, 'gan Dduw '—fel yr oedd y brawd ifanc yn dweyd neithiwr—daliwch ati, 'machgen anwyl i"—'gan Dduw'—y Duw y darfu i ni bechu yn ei erbyn; y Duw ddarfu i ni ddigio; y Duw bia 'r gyf raith; y Duw fydd yn ein barnu; 'gan Dduw'—peidiwch digaloni, frawd bach; ymddiriedwch ynddo, frodyr anwyl; 'gan Dduw.' Bendigedig a fo. Mae o'n siwr o fod wedi gwneyd ei waith yn iawn."

Nid oedd ei ddoniau pregethu ond bychain ac afrwydd iawn, oddieithr pan y cai ryw oleu a hwyl annghyffredin. Ar adegau felly, byddai yn anhygoel o nerthol. Byddai ei holl enaid wedi ymgynhyrfu ynddo, a siaradai gyda rhwyddineb a phriodoldeb a grym mawr. Clywsom ef felly amryw droion. Ond, pan na chai ond ychydig hwyl, byddai yn dra thrwsgl ac anniben, ac weithiau braidd yn boenus i'w wrandaw. Byddai yn holi Paul, a Paul yn nacau ateb. "Ai ë Paul?" "Sut ynte, Paul?" "Paham, Paul?" "Gan hyny, "beth, Paul?" "Wyt ti'n fyw ac yn farw Paul?" "Yn fyw ac ddim yn fyw,