Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Paul?" Ond, weithiau, wedi hir holi, ac ar ol hir ymgyndynu, fe atebai Paul yn gampus, â llais uchel dros y Capel, nes y byddai yr holl gynnulleidfa mewn dagrau, -"Eithr Duw-eithr Duw-EITHR Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, ïe, pan oeddem feirw mewn camweddau, a'n gyd-fywhäodd ni gyda Christ trwy ras yr ydych yn gadwedig. Trwy ras! trwy ras!! TRWY RAS!!!' Dyma obaith i'r annheilwng. Dyma obaith i minau! Dyma obaith i tithau !" Yn yr Epistolau at y Rhufeiniaid a'r Ephesiaid y byddai ei destynau fynychaf: ac nid oedd ei bregethau, gan amlaf, ond cymmaint ag a fedrai gofio o hen Esboniadau Lladin Musculus ar y Rhufeiniaid, neu Zanchius ar yr Ephesiaid. Nid anfynych ar ddydd Llun, os byddai y bregeth yn un led-newydd, pan yn ail ddarllen ei hoff awdwyr, y clywid ef yn cwyno, "Wel! wel!! wel!!! pity! pity!! pity!!! Dyma fi wedi annghofio ddoe y pethau goreu o'r cwbl. Gresyn! Gresyn!! Gresyn!!!" A dyna lle y byddai yn dygnu yn ceisio gwneyd cynnwysiad sylwadau yr hen Esbonwyr yn feddiant llwyrach iddo ei hunan. Bu farw Ebrill 16, 1841, yn 70 mlwydd oed, wedi bod yn gweinidogaethu yn mhlith y Methodistiaid dros 36 mlynedd.

Yr oedd yno rai brodyr ereill ag y carasem wneyd ychydig grybwylliadau am danynt, megis, Mr. John Huxley, Carnarvon, Mr. Griffith Solomon, Mr. Owen Jones, Plasgwyn, a Mr. David Roberts, Bangor; ac, yn neillduol, amryw o'r Blaenoriaid, ag oeddent yn wŷr o ddylanwad mawr yn y Cyfarfod Misol, ac o'r dechreuad yn gyfeillion calon i John Jones; megis, Mr. Robert Roberts, Blaen-y-Cae, Llanddeiniolen; Mr. Robert Hughes a Mr. John Robert Jones, Bangor; Mr. William Jones, Abercaseg; Mr. John Jones, Beddgelert; Mr. Isaac Morris, Pentyrch, Llangybi; Mr. William Williams, Llanerch, Tremadoc; Mr. Richard Thomas, Tanllan, Tydweiliog; ac amryw ereill. Ond arweiniai hyd yn nod crybwylliad byr am y rhai hyn oll ni i feithder annghymhedrol; ac felly y mae yn rhaid i ni ymattal.

Dyma y tadau a'r brodyr oeddent ar y blaen o fewn cylch Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon, pan y daeth John Jones i undeb âg ef. Yr oedd efe agos yn ddieithr hollol iddynt oll, ac yn teimlo braidd yn bryderus ynghylch ei gysur ei hunan yn eu plith. Ond yr oedd Mr. Richard Jones o'r Wern, yr hwn oedd yn eu hadnabod yn dda ac wedi byw y rhan fwyaf o'i oes gyda hwynt, wedi ei ollwng i mewn, yn dra-