charedig, i'w gyfrinach ei hunan o berthynas iddynt oll; ac wedi rhoddi amryw gynghorion gwerthfawr iddo, gyda golwg ar ei symmudiad i'w mysg, am y rhai y teimlai y pryd hyny, ac am y gweddill o'i oes, yn ddiolchgar iawn. Y mae yn ddiddadl fod nerth mwyaf y weinidogaeth ar y pryd yn y Sir, yn gystal a'r awdurdod lywodraethol, yn Lleyn ac Eifionydd, ac nid ydym yn ammeu na byddai cyfeillion Arfon yn fynych yn teimlo fod y rhai oeddent ar y blaen, yn dra thueddol i edrych yn lled isel arnynt hwy, os nad, ambell dro, braidd yn gwneuthur cam â hwynt. Yr oedd dyfodiad John Jones, gan hyny, i Arfon yn cael edrych arno, gan y brodyr yno, yn ddyrchafiad i'w pen hwy i'r Sir, ac yn rhywbeth a effeithiai, feallai, yn raddol, i wastadau yr hyn a olygid ganddynt hwy yn ychydig gemni yn y pwn. Y Cyfarfod Misol cyntaf a gafodd John Jones yn y Sir oedd un Nefyn, yn nechreu mis Chwefror, 1823, yn fuan iawn wedi iddo symmud i Dalsarn. Yr oedd eira mawr y pryd hwnw yn gorchuddio y ddaear, y fath, meddir i ni, na welwyd ei gyffelyb yn y wlad hono o hyny hyd heddyw. Pregethodd yn y Cyfarfod Misol am ddeg ar y gloch, o flaen y Parch. John Jones, Tremadoc, y tro cyntaf a'r tro diweddaf i'r hen frawd, ond nid hen iawn y pryd hyny, gynnyg pregethu ar ei ol ef. Ei destyn, y tro hwn, oedd Rhuf. viii. 3. Yr oedd nerth anarferol gyda'i bregeth y pryd hyn. Dangosodd neu yn hytrach dangosodd Duw ei hun fod rhywbeth ofnadwy yn ei weinidogaeth. Wedi gosod y ddeddf allan, yn ei hysbrydolrwydd a'i hëangder a'i manylrwydd, ei hawdurdod i ofyn y pechadur a'i ddiffygion yntau yn ei gwyneb, gwaeddai, "Bellach dyma dri gair y gellir, y rhaid, nid oes obaith peidio eu cysylltu â'u gilydd, dyn, deddf, a damnio; dyn, deddf, a thân tragywyddol. Ond, Nage, Nage: Bendigedig fyddo Duw! y mae yr hen efengyl yn siarad rhywbeth arall; y mae yn datguddio trefn i dori y cysylltiad, a hyny ar dir cyfiawnder, rhwng y pechadur a'r hyn oedd ddyledus iddo, 'Duw a ddanfonodd ei Fab."" Ac yna aeth rhagddo i egluro trefn yr efengyl ar gyfer amgylchiad dyn fel deiliad a throseddwr deddf, gyda'r fath oleuni a grym, nes yr oedd yr holl gynnulleidfa yn y cyffro mwyaf. Mawr mewn gwirionedd yn nheimladau y bobl oedd yr ymwared a gyhoeddid ganddo. Cafodd yn yr oedfa hono afael lwyr yn nghalonau ei holl wrandawwyr, ac yn neillduol y gwŷr blaenaf a berthynent i'r Cyfarfod Misol. "Wel, yn wir," meddai yr hybarch Robert Jones, Tŷ Bwlcyn, yr hwn oedd wedi dechreu yr oedfa,
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/135
Prawfddarllenwyd y dudalen hon