Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"dyma bregethwr fel yr hen Rowlands yn union, ond gyda llais llawer pereiddiach, os nad doniau mwy dysglaer nag oedd ganddo ef." "Yr oedd rhywbeth ofnadwy," meddai y Parch. Michael Roberts wrthym, "yn John Jones, y tro cyntaf erioed i mi ei wrando, yn Nghyfarfod Misol Nefyn. Druan o John Jones, Tremadoc, oedd i bregethu ar ei ol. Yr oedd Daniel Jones a minau i bregethu am ddau, ac ni bum i erioed mewn cymmaint profedigaeth i ddianc adref, gan adael iddynt gadw cyfarfod fel y gallent. Ac yr ydwyf fi braidd a meddwl eto mai y peth goreu o lawer fuasai tori y Cyfarfod i fynu yn gwbl yn union wedi iddo ef ddarfod. Pa fodd bynnag yr oedd yno ryw ystwythder yn parhau hyd ddiwedd y dydd nad ydyw i'w gael yn fynych wedi cyfarfod mor nodedig o gynhyrfus yn y boreu." Fe sefydlwyd ei gymeriad fel hyn ar unwaith, trwy y bregeth hon, yn Nghyfarfod Misol Sir Gaernarfon. Daeth i gael ei gydnabod yn gyffredinol, o hyny allan, fel un y dysgwylid iddo bregethu yn mhob cyfarfod, oddieithr yn y lleoedd agosaf i'w gartref, ac hyd yn nod yn y lleoedd hyny braidd yn wastad ar noswaith olaf y Cyfarfod; ac os dygwyddai weithiau, oblegyd rhyw achos, iddo gael ei adael heibio byddai siomedigaeth yr ardal a'r dieithriaid cynnulledig yno ar yr achlysur yn ddirfawr.

Yn yr haf cyntaf wedi iddo sefydlu yn Nhalsarn, fe'i perswadiwyd gan y diweddar John Jones, oedd yn flaenor yn Beddgelert, i fyned i Gymdeithasfa Awst yn y Deheudir, yr hon, y flwyddyn hono, a gynnelid yn Llanbedr Pont Stephan. Yr oedd yma fesur o afreoleidd-dra: oblegyd nid oedd eto wedi ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa, ac felly nid oedd ganddo mewn gwirionedd awdurdod Gymdeithasfaol i fyned mor bell oddicartref; ac yr oedd cryn fai ar yr hen frawd o Beddgelert, a'r brodyr ereill a gyd—olygent ag ef, ei berswadio i'r hyn a ymddangosai i lawer mor afreolaidd. Yr esgus oedd, ymofyn pregethwyr i Gymdeithasfa Pwllheli, yr hon oedd i'w chynnal yn niwedd y mis Medi canlynol. Ond yr oedd Griffith Solomon a Moses Jones yn myned yno eisoes yn genhadau dros y Sir, a hen flaenor o Four Crosses, Richard Roberts o'r Factory, yn gyfaill i Moses Jones, gyda golwg ar gael cyhoeddiadau gwyr dieithr. Ond yr oedd yr hen frawd o Beddgelert, yn dadleu fod caniatâd wedi ei roddi i John Jones yn Nghymdeithasfa y Bala, yr haf hwnw, i fyned i ba le bynnag y gelwid arno fel pregethwyr ereill, er nad oedd amser, gan yr ymdriniaeth oedd yno yn nghylch y Cyffes Ffydd, i ymddyddan âg ef, a'i dderbyn yn rheolaidd yn aelod o'r