Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/137

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymdeithasfa. Pa fodd bynnag, fe gychwynodd i'r Deheudir. Dechreuodd yn Beddgelert, lle y cadwai gyfarfod eglwysig, nos Iau, Gorph. 31ain. Drannoeth, pregethodd yn y Penrhyn, y Dyffryn, a'r Abermaw; ac yna aeth dros afon yr Abermaw, ac afon Dyfi, a chyda glan y môr yn Sir Aberteifi, nes cyrhaedd Aberaeron; ac yna i fynu tua Llanbedr, lle yr oedd y Gymdeithasfa i'w chynnal. Yr oedd yn pregethu gydag effeithioldeb mawr yr holl daith hon. Yr oedd wedi deall fod lliaws o Sociniaid yn nghymmydogaethau Llanbedr, ac wedi parotoi pregeth o allu annghyffredin ar Dduwdod y Gwaredwr, a'r cysylltiad rhwng ei Dduwdod a haeddiant ei aberth fel iawn dros ein pechodau. Yr oedd wedi pregethu y bregeth hono amrywiol weithiau yn ystod y daith, gan lawn fwriadu, os byddai yn pregethu yn y Gymanfa, ei thraddodi yno. Ond wedi dyfod i Lanbedr, a threfnu y moddion cyhoeddus, ni chafodd efe ei enwi i wneuthur dim, dim cymmaint a dechreu un oedfa. Yr oedd hyny nid yn siomedigaeth ond yn brofedigaeth fawr iddo, nid yn gymmaint oblegyd peidio cael gwneyd dim, ag oblegyd yr esboniad a roddid ganddo ef yn naturiol, ar waith y cyfeillion yn myned heibio iddo. Meddyliodd, ar unwaith, nad oedd hyny ond y dull a gymerasid ganddynt i'w geryddu ef am ei afreoleidd—dra yn cydsynio â'r cymhelliadau a wneid arno i fyned i'r Deheudir, cyn bod ar dir oedd yn rhoddi awdurdod iddo i hyny; ac felly, yn lle beio dim arnynt hwy, yr oedd yn ei feio ei hunan am droseddu ar drefn gyffredin y Cyfundeb, ac yn penderfynu na wnai ddim cyffelyb byth mwy. Hwyrach nad annerbyniol gan ein darllenwyr fyddai cael ychydig o hanes y Gymmanfa gyntaf hon, i Mr. John Jones yn Neheudir Cymru. Ni a wnaethom i fynu yr adroddiad canlynol o'r Adroddiadau a roddir am dani yn Seren Gomer Llyfr vi. tu dal. 814, y rhifyn am Hydref, 1823; Goleuad Cymru, Llyfr iii., tu dal. 215, y rhifyn am Medi, 1823; ynghyd a Chofnodau y Parch. Ebenezer Richard, Ysgrifenydd y Gymdeithasfa:

Nos Fawrth, Awst 5, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. Theophilus Jones o Fristol, a phregethodd Mr. John Edwards o Sir Flint ar Iago i. 25; a Mr. William Jones o Ruddlan ar Diar. iii. 15. Dydd Mercher, Awst 6, am ddeg yn y boreu, cadwyd cyfarfod y Gweinidogion a'r Pregethwyr. Dechreuwyd gan Mr. John Roberts. Yna ymddyddanwyd â phedwar o bregethwyr ieuainc i'w cyflwyno i'r Cyfarfod, yn y prydnawn, i'w derbyn fel aelodau o'r Gymdeithasfa. Y brodyr hyny