Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/138

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddent John Jones, Penmorfa; John Jones, Llangeitho; William Williams, Aberteifi; a David Owen, Penmorfa. Ymddiddanwyd â hwy am eu profiadau gan Mr. John Roberts; am eu hegwyddorion athrawiaethol gan Mr. Charles, Caerfyrddin; ac am eu cymhelliadau i'r gwaith gan Mr. Thomas Richard. Am ddau ar y gloch, cyfarfu y Pregethwyr a'r Blaenoriaid gyda'u gilydd. Dechreuwyd gan Mr. Evan Lewis, Dinbych. Yn y cyfarfod hwn, gwrandawwyd ar gwyn cenadwr o Liverpool, a darllenwyd llythyr o'r un lle, yn deisyf cael rhai o bregethwyr y Deheudir i Liverpool; a chytunwyd ystyried y cwyn yn bwysig, ac annog pawb a allent i fyned yno. Am bedwar ar y gloch dechreuwyd yr addoliad yn gyhoeddus ar y maes, trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Moses Jones o Sir Gaernarfon; a phregethodd Mr. Thomas Richard ar Iago v. 20; a Mr. John Hughes, Sir Drefaldwyn, ar 2 Tim. i. 12. Am 6 ar y gloch, boreu dydd Iau, Awst 7, gweddïodd Mr. John Edwards, Sir Flint; a phregethodd Mr. William Jones, o Ruddlan, ar Dat. xiv. 13; a Mr. Evan Griffiths, Meifod, ar Col. i. 28. Am 8 ar y gloch, cadwyd cyfarfod y gweinidogion, y pregethwyr, a'r blaenoriaid, pryd y neillduwyd Mr. Thomas Harris, Hwlffordd, i waith cyflawn y weinidogaeth. Darllenodd Mr. Williams, Lledrod, y rhanau arferol o'r Gair Sanctaidd, ac a weddïodd. Llefarodd Mr. Evans, Llwynfortun, ychydig ar Natur Eglwys. Gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. John Roberts; a rhoddwyd y cynghor gan Mr. Ebenezer Richard. Am ddeg ar y gloch, Gweddïodd Mr. David Williams, Merthyr Tydfil; a phregethodd Mr. Charles, Caerfyrddin, ar Rhuf. v. 1; a Mr. Theophilus Jones, yn Saesonaeg, ar Rhuf. i. 16; a Mr. John Roberts, Llangwm, ar Eph. iv. 10. Am ddau ar y gloch, gweddiodd Mr. Richard Jones, Trawsfynydd; a phregethodd Mr. Humphrey Gwalchmai ar 1 Tim. iii. 16; a Mr. Evans, Llwynffortun, rhan yn Gymraeg a rhan yn Saesonaeg, ar Matt. xvi. 26. Am chwech yn yr hwyr, gweddiodd Mr. William Havard; a phregethodd Mr. Griffith Davies, Llanerchymedd; a Mr. Griffith Solomon.

Dyna yr Adroddiad sydd genym am y Gymdeithasfa hono. Y mae pawb o'r rhai oeddent yn gwneyd dim yn gyhoeddus ynddi, wedi gorphen eu gwaith, ac yn awr, ni a hyderwn, yn mwynhau eu gwobr; ac nis gall odid neb ddarllen yr Adroddiad hwn heb deimlo fod cyfnewidiadau dirfawr wedi cymmeryd lle yn ein plith er hyny, yn enwedig yn amgylchiadau yr achos yn Liverpool. Swnia yn ddieithrol iawn, y mae