Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/139

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dra thebyg, i lawer o'r cyfeillion yno, fod y fath gŵyn wedi myned erioed o'r lle i Gymdeithasfa y Deheudir, ac yn neillduol, mor ddiweddar mewn cymhariaeth. Ond ni wna cofio yr hyn oeddent unwaith i'r brodyr yno, sydd erbyn hyn yn llïosog ac yn gryfion, unrhyw niwed, a dichon eu gwneyd hyd yn nod yn fwy parod nag ydynt i gydymdeimlo á ac i gynnorthwyo lleoedd a allant fod yn awr yn yr un gwendid ag yr oeddent hwy ynddo y pryd hwnw. Arosodd John Jones yn y Gymanfa yn Llanbedr hyd ei diwedd, a mwynhäodd, er yr holl drallod yr oedd ei feddwl ynddo, lawer o hyfrydwch wrth wrando ar y nifer amlaf o'r pregethau yno. Clywsom un brawd yn dywedyd iddo sylwi arno yn sefyll ar y maes, y prydnawn cyntaf, y tro cyntaf erioed y cafodd efe olwg arno, pan yr oedd rhyw gyfaill iddo yn ei gyfeirio ato, gan ddywedyd mai pregethwr o'r Gogledd ydoedd, a phregethwr heb ei fath, braidd, a'i fod ef wedi ei glywed, mewn rhyw le a enwid ganddo, pan yn dyfod tua'r Gymmanfa. Effeithiodd yr olwg gyntaf hono arno ar y maes yn ddirfawr ar feddwl y brawd y cyfeiriwn ato. Nis gallai yn ystod yr oedfa prin dynu ei lygaid oddiarno. Yr oedd yr harddwch annghyffredinol oedd yn ei wynebpryd, y treiddgarwch a'r astudrwydd oedd yn ei lygaid, a'r difrifoldeb oedd yn ei holl ymddangosiad-y fath fel nad oedd yn bosibl iddo beidio a sylwi arno ac nas gall byth eu hannghofio. Drannoeth wedi y Gymmanfa, yr oedd yn pregethu yn Llangeitho am ddeg, yn Nhregaron am ddau, ac yn Lledrod am saith. Yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynnull i Langeitho, a lliaws o bregethwyr yno ar en dychweliad o'r Gymmanfa. Ac, yn mhlith ereill, yr oedd y Parchedig Ebenezer Morris yno ar ei ffordd tuag Aberaeron neu ryw le yn y cyfeiriad hwnw at y Sabbath canlynol. Yr oedd ei bresennoldeb ef yn ddychryn mawr iddo. Pan oedd yn pryderu wrth feddwl y byddai Mr. Morris yn gwrandaw arno, pwy a ddaeth i mewn i dŷ y Capel ond y Parchedig Ebenezer Richard, nes gwneyd ei ofnau yn fwy. Pa fodd bynnag gyda'r ofn daeth rhyw gymmaint o ymwared. Meddyliodd nad oedd wedi pechu rhyw lawer, trwy ddyfod yn afreolaidd i'r Gymdeithasfa, ac onidê na buasai y ddau ŵr blaenaf yn y Sir, ac Ebenezer Morris y pryd hyny, fel y daeth Ebenezer Richard wedi hyny, y blaenaf a'r penaf yn y Deheudir, yn dyfod yno i wrandaw arno. Rywfodd fe gafodd gymhorth cyn myned i'r Capel i'w annghofio ei hunan a hwythau. Pregethodd y bregeth a fwriadasai ar gyfer y Gymdeithasfa. A chafodd ryw oedfa annghyffredinol o lewyrchus ac