Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

effeithiol. Yr oedd y lle drwyddo dan ddylanwad "nerthoedd y byd a ddaw." Dangosodd ogoniant Person y Gwaredwr a digonolrwydd ei aberth, gyda'r fath oleuni a grym a theimlad, nes yr oedd yno ugeiniau a channoedd wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain, ac yn tori allan i waeddi yn yr hwyliau mwyaf gorfoleddus. Wedi i'r oedfa fyned heibio, cafodd ei gyfaill o Beddgelert gyfleusdra i ymddyddan â Mr. Morris a Mr. Richard a Mr. David Evans, Aberaeron (yr hwn oedd yntau hefyd yno), ac amryw ereill o Weinidogion a Blaenoriaid Sir Aberteifi, y rhai oeddent yn bresennol, yn nghylch y brofedigaeth yr oedd y pregethwr ynddi oblegyd ei ddyfodiad i Lanbedr. Dechreuwyd yr ymddyddan, yn wir, gan Mr. Richard, yr hwn oedd wedi bod dan deimladau rhyfedd yn yr oedfa. Fe droes at y cyfaill, John Jones, Beddgelert, ac a ddywedodd, "Wel John Jones, bach, sut na buasech chwi yn rhoddi rhyw hysbysiad i ni, cyn y Gymdeithasfa, am y gŵr ieuanc yma a ddaethoch chwi gyda chwi yno? Y fath resyn na chlywsai y miloedd oedd yn y Gymmanfa y bregeth yna! Yr oedd fel pe buasai wedi ei gwneyd yn bwrpasol i'r lle." Rhoddes hyn gyfleusdra i'r cyfaill i adrodd am y trallod yr oedd meddwl y pregethwr ieuanc ynddo, am ei fod yn ofni, er pan y clywsai ddarllen trefn y moddion cyhoeddus yn Llanbedr, eu bod yn golygu ei fod wedi gadael ei gartref yn afreolaidd, ac a eglurodd iddynt yr holl amgylchiad yn nghylch y drafferth a gymerasid ganddo ef i gael ganddo ddyfod i'r Gymmanfa, a'r modd yr oedd efe a'r cyfeillion ereill yn Sir Gaernarfon wedi deall ac yn esbonio y penderfyniad a wnaethid yn y Bala, y Mehefin cyn hyny, gyda golwg arno, gan ddangos, od oedd bai yn bod ar ryw un, mai nid ar y pregethwr ieuanc yr ydoedd. Ond erbyn deall, yr oedd hyn oll yn newydd iddynt hwy. Nid oedd cymmaint ag un o honynt yn gwybod fod un math o afreoleidd—dra wedi bod, nac yn gwybod nad oedd y pregethwr ieuanc wedi ei dderbyn, fel y brodyr ereill, yn aelod o'r Gymdeithasfa. Y gwirionedd oedd, nad oedd y cyfeillion oeddent ynghyd yn trefnu cynllun y gwasanaeth cyhoeddus yn Llanbedr, os oeddent yn gwybod ei fod yn y Gymmanfa, yn gwybod dim am dano, a'u bod, wrth lunio y trefniad, wedi ceisio cadw golwg ar yr amrywiol Siroedd, ac wedi enwi dau o'r rhai oeddent fwyaf adnabyddus o Sir Gaernarfon i gymeryd rhan yn y gwaith; ac nad oedd un math o feddwl am arwyddo unrhyw anfoddlonrwydd tuag ato ef mewn unrhyw esgeulusiad a fuasai o hono, mwy nag yr oedd