Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amcan am ymddwyn felly at frodyr ereill, a rhai o honynt o'r Gogledd, oeddent yno, fel yntau, heb wneuthur dim. Eu bod, neu rai o honynt, pa fodd bynnag, wedi clywed ryw bryd yn ystod y Gymanfa, gan yr hen frawd y Parch. John Roberts, Llangwm, fod yno ryw wr ieuanc o Sir Gaernarfon, a'i fod yn bregethwr annghyffredin iawn, a bod yn ddrwg iawn ganddo ef (Mr. Roberts) nad oedd efe wedi ei enwi i wneyd dim yn gyhoeddus yn Llanbedr; a bod clywed hyny wedi bod yn ofid mawr iddynt; ac mai y clywed hwnw am dano oedd wedi eu dwyn hwynt yn y fath lu yno y diwrnod hwnw; ac erbyn ei wrandaw eu hunain eu bod yn fwy gofidus nag o'r blaen, ond eu bod yn gobeithio y caent ei weled lawer gwaith ar ol hyny yn eu plith, ac y byddai yn sicr, pa bryd bynag y delai, o gael lle cyhoeddus yn eu Cymdeithasfäoedd. Cymmerodd y prif weinidogion, oeddent yn bresennol, arnynt eu hunain hysbysu i John Jones pa fodd yr oedd pethau wedi dygwydd fel y gwnaethant, ac i sicrhau iddo nad oedd un amcan gan neb mewn un modd i'w ddolurio wrth fyned heibio iddo yn Llanbedr, ond bod y cwbl wedi ei achosi gan ddiffyg adnabyddiaeth o hono. Bu hyny yn esmwythâd mawr i'w feddwl. Dygwyd ef yn wir i dawelwch hollol. Yr oedd peidio cael ei enwi i wneyd dim wedi myned yn beth bychan a dibwys iawn yn ei olwg, ar ol cael pob sicrwydd nad oedd un bwriad, wrth fyned heibio iddo felly, i wgu arno am unrhyw afreoleidd-dra neu annoethineb o'i eiddo ef. Yr ydym wedi aros yn hwy gyda hyn nag yr oeddym yn bwriadu: ond fe barodd y peth, ar y pryd, gryn lawer o deimlad a siarad yn mhlith cyfeillion John Jones, yn neillduol yn Sir Gaernarfon, tra yr oedd rhyw nifer o'r rhai oeddent braidd yn eiddigns o hono, os nad yn tueddu i genfigenu wrth ei lwyddiant, yn fwy na hanner boddhaol o'i fod wedi cael ei adael heb ei enwi i wneyd dim yn Nghymanfa Awst yn y Deheudir, ac yn awgrymu mai cerydd cyhoeddus oedd hyny arno am fyned, yn y sefyllfa yr ydoedd ar y pryd fel pregethwr ynddi, i'r fath le. Buasai deall yr amgylchiadau yn well yn tawelu ei gyfeillion ac yn cau geneuau yr ychydig rai bychain crebachlyd a fynent ryw beth er ei ddarostwng.

Dilynwyd ef gan dyrfa ddirfawr o Langeitho i Dregaron, lle yr oedd i bregethu yn y prydnawn am ddau ar y gloch. Cafodd oedfa nodedig o lewyrchus yno drachefn. Aeth oddiyno i Ledrod at yr hwyr, gan dynu ugeiniau ar ei ol o Dregaron, a lliaws mawr o gymmydogaethau Llangeitho. Yr oedd eneiniad mawr ar ei weinidogaeth yno drachefn.