Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei gael yn cymmeryd taith i bregethu trwy Sir Ddinbych a rhan o Sir Feirionydd. Dechreuodd y Sabbath, Rhagfyr 7, 1823, yn Llanrwst y boreu, yn Nhrefriw y prydnawn, ac yn Llanrwst drachefn yn yr hwyr, gan fyned rhagddo trwy y Sir, a diweddu drachefn yn Llanrwst, nos Sabbath, Rhagfyr 21ain. Yna aeth rhagddo trwy y Bettws a Phenmachno a'r Ysbytty, &c., gan ddychwelyd adref erbyn diwedd y flwyddyn. Y mae yn dra thebygol, er nad oes genym un hanes am hyny, ei fod, gan ei fod yn y gymmydogaeth, wedi bod yn Nghymdeithasfa Llanrwst, y flwyddyn hon. Ond os bu ni alwyd arno i wneyd dim yno.

Yr oedd yn awr yn gweithio bob dydd yn y Gloddfa, ac yn dilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol yn ddifwlch. Byddai yn cael ei dynu gan y Blaenoriaid yn fynych i bellder mawr am y Sabbathau, a chan mai cerdded y byddai braidd bob amser y pryd hwnw, yr oedd y llafur y byddai tano o angenrheidrwydd yn fawr iawn. Wedi gweithio yn galed am hanner diwrnod ar y Sadwrn yn y Gloddfa, byddai yn cerdded pymtheg neu ugain, ac weithiau ddeng milltir ar hugain, yn y prydnawn, at ei gyhoeddiad y Sabbath. Ac ar ol pregethu yn galed dair gwaith ar y Sabbath, cyfodai yn foreu ddydd Llun, a byddai wrth ei waith drachefn yn y Gloddfa braidd yn wastadol, oddieithr y byddai yn myned i Gyfarfod Misol, ar ol ciniaw ganol dydd. Yr oedd gyda hyny yn gyson yn y cyfarfodydd wythnosol yn Llanllyfni a Thalsarn, ac yn fynych yn pregethu ar nosweithiau o'r wythnos yn y capeli yn y cymmydogaethau cyfagos. Yr oedd braidd yn hoff o gyfleusdra i hyny ex mwyn cael gwneyd prawf ar bregeth newydd. Ond yr oedd yn iach a chryf ac nid oedd y llafur mawr hwn braidd un amser yn effeithio arno i beri iddo deimlo dim blinder. Yr oedd ei wraig, yr un pryd, yn teimlo drosto, ac yn feddylgar yn ystyried nad oedd modd iddo, er cadarned ei gyfansoddiad, barhau yn hir yn y fath lafur heb dderbyn niwed; ac felly yn dra awyddus am ymdrechu gwneyd eu masnach y fath ag a'i galluogai i roddi i fynu yn gwbl weithio yn y Gloddfa. Yr oedd hi gyda hyny yn teimlo awydd mawr am iddo gael mwy o amser i fyfyrio a pharotoi ei bregethau, yn gystal a mwy o ryddid i fyned yn achlysurol ar daith nag oedd hawdd iddo gael yn y Gloddfa heb beri cryn fesur o annghyfleusdra i'w gydweithwyr. Ac yr oedd yn neillduol yn teimlo yn ddwys wrth ei weled, ar ol dyfod adref o daith bell ar ol llafur mawr y Sabbath, yn gorfod myned i'r Gloddfa brydnawn ddydd