Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/144

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llun. Y diwedd fu iddi hi benderfynu, ac iddo yntau gydsynio, yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi iddynt briodi, ar ymhelaethu yn eu masnach. Cymmerasant Efail Gôf, gan gadw crefftwr i wneyd' pob gwaith a ddysgwylid oddiwrth ôf mewn lle o'r fath. Ymgymerasant hefyd â gwerthu pob math o ddefnyddiau at wasanaeth y gweithfeydd, megis pylor (powder), a phethau cyffelyb. Yn raddol, cynnyddodd y fasnach nes y daeth yn General Drapery, Grocery, and Ironmongery Business, ar radd go helaeth. Yr oedd gofal y fasnach braidd yn hollol ar Mrs. Jones, gan fod y bregeth yn myned a'i fryd ef mor lwyr, fel nad oedd nemawr ymddiried, os gadewid ef ei hunan yn y shop, na byddai rhyw greaduriaid ystrywgar ac anonest yn cymmeryd mantais ar ei ddiniweidrwydd, ac yn dwyn ymaith mewn un pryniad annhêg holl ennill darn mawr o ddiwrnod. Mae amryw hanesion i'r ystyr yna yn cael eu hadrodd am dano. Er enghraifft:—Rywbryd, yn absennoldeb pawb ond efe ei hunan, daeth rhyw un i mewn i brynu rhaw. Yr oedd ganddynt amryw fathau o rawiau ar werth, yn amrywio yn eu prisiau, ac yr oeddent wedi eu nodi â'r rhifau 1, 2, 3, 4, 5, &c., yn ol eu rhagoriaeth a'u pris. Cydiodd y dyn mewn rhyw raw, ac a ofynodd ei phris. Dywedodd yntau, nad oedd efe yn gwybod, ac nad oedd "Fanny" yn y tŷ, ond gofynodd i'r dyn beth oedd ê yn feddwl oedd ei gwerth. "Hanner coron," ebai yntau, "fyddaf fi yn arfer roi am un fel hyn." "O'r goreu" meddai yntau, "cymmerwch hi ynte am hanner coron." Wedi i'r wraig ddyfod i mewn, "Fanny," meddai, "mi werthais i un o'r rhawiau yna yrwan." "Pa un o honynt hwy, John Jones?" "Wel, yr un oedd â'r ffigiwr," gan enwi rhyw un, "arni." "Pa faint a gawsoch chwi am dani?" "Hanner coron, ddywedodd y dyn wrthyf fi fyddai o yn roi am un felly, ac mi a'i gwerthais innau iddo am hyny." "Pwy oedd o, John Jones ?" "Rhyw ddyn o'r fan yna." Erbyn edrych, yr oedd rhaw a ddylasai gael ei gwerthu, i wneyd dim ennill arni, am bum' swllt, wedi ei gwerthu am hanner coron. Mewn gwirionedd nid oedd un ymddiried iddo y gwyddai bris dim, oddieithr owns o dobacco neu owns o dea, neu bwys o siwgr, ac yn fynych fe adawai i'r nwyddau gael eu cymmeryd ymaith heb dderbyn tâl am danynt, ac heb wybod yn y byd pwy oedd wedi eu cael. Weithiau byddai cymmydogion gonest yn prynu ganddo ryw bethau yn mhell islaw eu pris, ond yn eu huniondeb, a chan ddeall nad oedd efe yn gwybod llawer am y shop, yn ymofyn drachefn â Mrs. Jones.