Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn talu y gwahaniaeth iddi hi. Unwaith, pan oedd Mrs. Jones yn cychwyn i Manchester i brynu goods, dywedai, "Gofalwch chwi am y shop, John Jones." "Oh! Fanny," meddai yntau, "yr ydwyf fi yn deall mwy am shopio nag ydych chwi yn feddwl." Erbyn iddi ddychwelyd, ar ol ychydig siarad, a hithau yn holi pa fodd yr oeddent wedi gwneyd yn y shop tra yr oedd hi oddicartref,—"Wel," meddai, "mi werthais i yr hancetsi i gyd." "Da iawn: pa faint gawsoch chwi am danynt ?" "Oh," meddai yntau yn llon iawn, "mi gefais bymtheg ceiniog yr un." Ond yr oeddent yn werth o bedwar swllt i bump yr un, a daeth y rhai oeddent wedi eu prynu, o honynt eu hunain, at Mrs. Jones i ymofyn, ac a dalasant y gwahaniaeth. Nid oedd fel hyn ond ychydig ddibyniad i'w roddi arno yn y shop. Yr oedd ei feddwl yn gymmaint gyda phethau y bregeth fel y byddai yn ddigrifol weithiau sylwi mor annghofus oedd o bethau ereill. Ryw bryd, pan yr oedd y nwyddau newydd ddyfod o Manchester, a Mrs. Jones yn edrych yr Invoice, ac yn cymharu y pethau a'r rhestr oedd o honynt yno, dygwyddodd tro tra digrifol. Yr oedd yno sypyn o frethyn, neu moleskin, neu rywbeth cyffelyb. "Mesurwch y piece yna John Jones," meddai y wraig wrtho. Dechreuodd yntau fesur yn ddioed. Yr oedd yn ddarn hir iawn. Mesurodd, a mesurodd, nes y daeth i'r pen. "Pa sawl llathen ydy' o, John Jones ?" "Yn wirionedd, ddarfu i mi ddim cyfrif." Dyna y fath un oedd ê yn y shop; fel y mae yn amlwg iawn fod pwysau y gofal yn disgyn agos yn gwbl ar Mrs. Jones. Ond bu Rhagluniaeth yn dyner iawn o honynt. Cawsant amryw golledion, a rhai o honynt yn lled drymion; ond cawsant rai gwaredigaethau masnachol tra hynod, a gadarnhâent ei feddwl ef a'i briod yn ngoruwchreolaeth y Brenhin Mawr ar y byd, ac ar holl amgylchiadau dynion ynddo. Yr oeddent, unwaith, mewn masnach led helaeth â gŵr o dref Caernarvon. Aeth John Jones yno un diwrnod i wneyd cyfrif âg ef. Ac wrth edrych y cyfrif cafwyd fod y gŵr crybwylledig yn ddyledwr iddo ef o un swllt ar hugain. Rhoddwyd y papur oedd yn cynnwys y cyfrif i John Jones, ond, mewn annghof, gadawwyd ef ganddo ef yno ar ei ôl. Drannoeth, pa fodd bynnag, daeth y gŵr hwnw i fynu yn annisgwyliadwy ar ryw achos i Dalsarn, a galwodd yn ei dŷ ef. Dywedodd Mrs. Jones wrtho fod John Jones wedi gadael papur y cyfrif rhyngddynt, mewn angôf, ar ei ôl yn ei dŷ ef. Dywedodd yntau y gwnai efe un arall yn ei le. Ac felly y gwnaeth yn y fan. Wrth