Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned yn ol i Gaernarfon, y diwrnod hwnw, bu y gŵr hwnw farw yn hollol ddisymwth. A phe na buasai iddo ddyfod i Dalsarn y diwrnod hwnw a throi fel y gwnaeth i'w dŷ ef, ac iddo wneyd ail bapur o'r cyfrif i Mrs. Jones, gallasent fod yn golledwyr o £60, oblegyd ni buasai ganddynt un dangosiad pa fodd yr oedd pethau yn sefyll rhyngddynt. Dro arall rhoddodd gŵr oedd yn eu dyled am swm pur fawr bapur iddynt ar y Bank am £100. Defnyddiasant hwythau y papur i dalu i un o'r masnachwyr o Loegr. Ond daeth amser y papur i fynu yn y Bank heb ir gŵr a'i rhoddasai iddynt ei gyfarfod yno â'r arian oedd yn ateb iddo. A daeth y Bank i ofyn y masnachwr, fel yr anfonodd am John Jones i ddyfod yn ddioed i'w gyfarfod i Gaernarvon. Yr oedd efe ar y pryd mewn Cyfarfod Pregethu yn y Carneddi, Llanllechid, tuag ugain milltir oddicartref. Teimlai Mrs. Jones i'r byw, ac yr oedd ar yr adeg hono mewn cyflwr gwanaidd i ddal y fath brofedigaeth, ar fin genedigaeth un o'r plant. Wedi iddo ddyfod adref hi a hysbysodd iddo pa fodd yr oedd pethau yn bod. Daeth y masnachwr ei hunan i fynu i Dalsarn, ac aeth a John Jones gydag ef i Gaernarfon. Edrychai Mrs. Jones arno gyda chalon drom pan oedd yn gadael y tŷ, gan gredu nas gallai ddychwelyd y diwrnod hwnw, ac nid heb ofni na allai gael ei ddodi mewn dalfa fel dyledwr. Ond, wedi cyrhaedd y dref, cyfarfu yn rhagluniaethol â chyfaill yr hwn a dalodd drosto yn y fan y swm gofynedig, a hyny gyda y parodrwydd mwyaf. Brysiodd yntau adref yn llawen ei galon i gysuro ei wraig, ac heb feddwl nemawr os dim am yr arian a gollesid ganddo trwy y gŵr oedd wedi methu ateb y papur i'r Bank. Pa fodd bynnag, yn mhen amser, fe dalodd y gŵr hwnw iddo yn gyflawn y swm oedd ddyledus arno.

Yr oedd yn awr, ar ol gadael y Gloddfa a throi yn hollol at y shop, yn llawer mwy rhydd, yn gymmaint a bod ei wraig yn cymmeryd y prif ofal arni ei hunan, i fyned i'w gyhoeddiadau Sabbothol, i'r Cyfarfodydd Misol, ac i ambell daith i Siroedd ereill; ac, yn neillduol, yr oedd ganddo lawer iawn mwy o fantais i fyfyrio a pharotoi ei bregethau. Ac yr oedd yn ymroddi a'i holl egui at ei waith. Dechreuodd yn bur fuan ranu y Sir yn dra thêg, o'r naill ben i'r llall iddi, wrth roddi ei gyhoeddiadau Sabbothol. Yr oedd ganddo rai lleoedd yr oedd yn fwy pleidiol iddynt ac y byddai yn myned iddynt yn amlach, megis Bangor, lle, feallai, y pregethai yn fynychach ar y Sabbathau nag yn un man; ond, ar y cwbl, yr oedd yn ei wneyd yn bwnc cydwybod iddo