Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/147

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hunan i fyned yn ei dro i bob man—i Leyn ac Eifionydd yn gystal ag i Arfon. Parhäodd felly agos yn gwbl tra y bu y Sir yn un Cyfarfod Misol; ac wedi ei rhanu yn ddau Gyfarfod Misol, nid oedd odid neb yn Arfon—prin y meddyliwn fod cymmaint âg un—a fyddai mor fynych i'w gael yn cymmeryd ei le i lenwi teithiau Sabbothol Lleyn ac Eifionydd. Ac nid oes prin eisiau dywedyd nad oedd neb ag y byddai cymmaint llawenydd oblegyd clywed ei fod yn dyfod na chymmaint cyrchu ar ei ol.

Tua'r amser y peidiodd a myned i'r Gloddfa i weithio, neu yn fuan wedi hyny, fe'i dewiswyd gan Ysgolion Sabbothol Dosbarth Clynog, fel y pregethwr oedd i ofalu yn arbenig am ac i ddilyn yn gyson y Cyfarfodydd Chwechwythnosol a berthynent iddynt Ymroddodd i hyny yn ffyddlawn am flynyddoedd lawer. Ac yr oedd efe ei hunan yn ystyried fod ei lafur gydâ 'r Cyfarfodydd hyny wedi bod mor fendithiol a llwyddiannus a dim yr ymgymmerasai âg ef yn ei oes. Yr oedd holwyddori yr Ysgol yn y lle yn rhan arbenig yn y Cyfarfodydd hyny, ac yr oedd efe wedi ei hir argyhoeddi nad oedd braidd ddim mwy anfuddiol na'r dull oedd yn rhy gyffredin yn cael ei gymmeryd i hyny. Am hyny fe benderfynodd, er creu mwy o ddyddordeb yn y Cyfarfodydd, a chynnyrchu ysbryd mwy ymchwilgar yn y Dosbarth, ymdrechu, hyd y gallai heb ddiflasu y lliaws, gwneyd yr holi yn llawer mwy meddylgar, a'r holiadau yn gyfryw ag a ofynent ychydig lafur a chraffder tuag at eu hateb yn barod ac yn gywir. Ac yn neillduol yr oedd yn gofalu am osod y wedd fwyaf ysgrythyrol ag oedd ddichonadwy ar yr Holwyddori. Mynai gael ganddynt roddi cynnifer o adnodau o'r Bibl âg a allent ar bob mater fyddai dan sylw; holai hwynt yn fanwl am ystyr briodol yr adnod yn y cysylltiad y defnyddid hi gan yr ysgrifenwyr sanctaidd; a phan y byddai adnodau yn ymddangos yn groes i'w gilydd ceisiai ganddynt ddangos pa fodd yr oeddent i'w cysoni. Ar y cyntaf yr oedd yn cael hwyrfrydigrwydd mawr, oddieithr mewn rhyw ychydig nifer, yn yr amrywiol Ysgolion, i gymmeryd y rhan a ddymunasai ef iddynt yn yr ymddyddanion cyhoeddus hyn, am hyny byddai yn fynych yn cyfeirio ei gwestiynau nid yn unig at yr Ysgol yn y lle y cynnelid y Cyfarfod ond at y Cenhadon a fyddent yno o'r amrywiol Ysgolion ereill. Yn raddol, pa fodd bynnag, fe lwyddodd, yn mhell tu hwnt i'w ddysgwyliad, i gael gan yr Ysgolion yn gyffredinol ateb. Yr oedd efe ei hunan yn llafurio yn galed iawn