Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/148

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda phob mater a fyddai yn dyfod dan sylw, ac yn ei barotoi ei Lunan, goreu y gallai, i gyfarfod pa gwestiwn bynnag a allasai gyfodi arno. A thystiai, hyd ddiwedd ei oes, nad oedd dim wedi bod yn gymmaint achlysur i ëangu, ac ar yr un pryd, i fanylu ei wybodaeth Dduwinyddol ef, a'r angenrheidrwwdd a ddodid arno am flynyddoedd i ymbarotoi ar gyfer yr Holwyddori yn y Cyfarfodydd Chwechwythnosol.

Wedi bod am amser maith yn ymdrin â phynciau athrawiaethol, yn y Cyfarfodydd hyny, daeth i'w feddwl fod cyfleusdra arbenig ynddynt i wneuthur ymosodiad ar lygredigaethau y genedl, yn enwedig y llygredigaethau y mae ieuengctyd yn gyffredin yn rhy dueddol iddynt, ac yn y ffurfiau neillduol oeddent yn gymmeryd yn y parthau hyny o'r wlad. Meddyliodd mai y peth goreu fyddai troi y Cyfarfod Ysgolion, yn y boreu, i draethu yn gyhoeddus ar y pechod o gydorwedd ac anlladrwydd, a galw ar amryw o'r brodyr mwyaf difrifol a galluog i lefaru, gydag ef ei hunan, arno. Cytunodd y cyfeillion yn y Cyfarfod Chwechwythnosol ar y cynllun a gynnygid ganddo, a phenderfynwyd i'r Cyfarfod canlynol, yr hwn oedd i fod yn Llanllyfni, gael ei dreulio felly. Cafwyd Cyfarfod nodedig iawn yn Llanllyfni. Yr oedd efe yn enwedig yn areithio gyda difrifoldeb a nerth oedd yn ofnadwy. Yr oedd yn dal tân uffern yn un llinyn ar hyd ei araeth, fel ag yr oedd yn anmhosibl i gnawd ddioddef, ac yr oedd teimlad cyffredin trwy y lle fod dydd newydd ar dòri ar Sir Gaernarfon a wnelai y drygau yr ymosodid yn eu herbyn yn annhosibl o'i mewn. Yegrifenwyd crynodeb o'r sylwadau hyny yr hwn a ddarllenwyd yn y nifer amlaf o Ysgolion y Dosbarth. Cafwyd cyfarfod hynod iawn yn Rhosytryfan ar y Sabbath y darllenwyd y Crynodeb hwnw. Pennodwyd gŵr ieuanc, nad oedd y pryd hyny yn aelod eglwysig, o'r enw Hugh Williams, Caerymryson, i'w ddarllen, ar ol y canu yn nghanol yr Ysgol, ac yna i'r hen flaenor, William Evans, Bryn yr Odyn, oedd wedi dyfod yno i ymweled â hwynt, ddywedyd ychydig ar y mater, a'r hen flaenor, a berthynai i'r lle, Griffith Jones, Cae hên, ddywedyd gair ar ei ol yntau. Darllenodd Hugh Williams y papur. Teimlai William Evans, pan oedd yn darllen, ryw ysfa ryfeddol i siarad, a chyda bod y darlleniad drosodd, cododd ar ei draed a siaradodd gyda theimlad a nerth mawr. Yr oedd Griffith Jones, drachefn, yn llawn awydd am i William Evans derfynu fel y caffai yntau lefaru. Ac felly y bu y ddau hen flaenor yn siarad drachefn a thrachefn y naill