Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ol y llall, gydag effeithioldeb annghyffredin, nes aeth amser yr ysgol heibio. Wrth fyned adref, yr oedd y bobl ieuainc yn ymddyddan â'u gilydd, gan ofyn y naill i'r llall, beth oeddent yn feddwl wneyd. "Nid af i byth," meddai un, "Nid âf finau byth," meddai arall, ac felly yr holl liaws; a'r canlyniad fu i'r adroddiad am y Cyfarfod yn Llanllyfni ddyfod a phobl ieuaine Rhos Tryfan i adael eu ffyrdd llygredig ac i ddechreu meddwl am grefydd. Torodd adfywiad mawr yno mewn caulyniad i'r Sabbath hwnw, fel yr ychwanegwyd at yr eglwys yn y lle dros bedwar ugain o nifer, gydag arwyddion gobeithiol iawn arnynt oll. Yr oedd achos crefydd cyn hyny yn isel iawn yno, a nifer ei phroffeswyr yn ychydig, ac, mewn cymhariaeth, yn dra diddylanwad : ond cafodd annuwioldeb trwy yr Adfywiad hwnw y fath ddyrnod yn y gymmydogaeth fel na chododd ei ben ar ol hyny, ac y gellir dywedyd yn ddibetrus fod pobl ieuaine Rhos Tryfan yn rhagori braidd, hyd y dydd hwn, ar eiddo un gymmydogaeth gyffelyb, mewn sobrwydd, diweirdeb, a chrefydd.

Gan y byddai tro y Cyfarfod Chwechwythnosol am amser maith cyn myned trwy yr holl Ysgolion ac i bob cymmydogaeth yn y Dosbarth, a bod y mater oedd yn awr wedi dyfod i sylw ynddo yn un mor bwysig ac angenrheidiol, barnodd John Jones mai y peth goreu oedd cymmeryd mantais ar y teimlad oedd wedi ei gynnyrchu a chadw Cyfarfodydd gydag Athrawon ac Athrawesau pob Ysgol yn y Dosbarth, ar nosweithiau yr wythnos, a chael cyfarfod cyhoeddus ar ol hyny i ddwyn y peth ger bron pob cymmydogaeth, yn enwedig yr ieuengctyd a'r Penau-teuluoedd. Cadwyd felly gyfarfod mewn rhyw le neillduol, unwaith bob wythnos, hyd nes yr aed trwy yr holl Ddosbarth. Llwyddodd yn fawr mewn rhai manau, fel yr oedd yn hyderu, nes rhoddi pen ar yr arferiad yr ymosodai yn uniongyrchol yn ei herbyn; a bu yn foddion i'w dwyn yn mhob man i ryw fesur o warth, yn nheimladau ieuengetyd yr Ysgolion Sabbothol yn gyffredinol. Yr oedd yn teimlo yn ddwys iawn oddiwrth yr achos hwn hyd ddiwedd ei oes, ac yn llosgi mewn eiddigedd am gael rhyw foddion effeithiol i lanhau ein gwlad yn gwbl oddiwrth y buddreddi hwn sydd o'i mewn, ac i symmud ymaith y gwarth a deflir arnom fel cenedl drwyddo.

Y mae hen lyfr ar gael, yn ei law-ysgrifen ei hunan, yn rhoddi adroddiad o'i Destynau, a'r Lleoedd y pregethai ynddynt, o'r cychwyn cyntaf, nos y Sulgwyn, 1821, hyd Ebrill 23, 1832. Yn ol yr hen Gof-lyfr