Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf–Augustine a Prosper yn dechreu ei ddwyn i ffurf fwy cyfundraethol–Gottschalck yn dysgu Prynedigaeth neillduol yn yr ystyr fanylaf—ei olygiadau yn cyffroi dadleuon brwdfrydig—yn cael eu condemnio mewn Cymmanfäoedd yn Mentz ac yn Quiersy―yntau yn cael ei erlid a'i garcharu—Remigius, Esgob Lyons, ac ereill, yn amddiffyn ei olygiadau–tair Cymmanfa yn Ffrainc yn penderfynu yn eu plaid–y dadleuon yn darfod, a'r pwnc hwn yn cael ei adael yn llonydd–y golygiad cyffredin arno yn y Canol-oesau–syniad y Diwygwyr Protestanaidd arno–Beza a Perkins yn dadleu dros Neillduolrwydd y Prynedigaeth–y dadleuon a achlysurwyd gan Arminius yn peri cynnydd mawr ar bleidwyr golygiad Perkins–Cymmanfa Dort a'i hathrawiaeth ar hyn–golygiadau Cynnrychiolwyr Lloegr yno–Cymmanfa Westminster—dadleuon rhwng yr Annghydffurfwyr, a achlysurwyd gan gyhoeddiad pregethau Dr. Crisp–tawelwch yn cael ei adfer–syniadau Dr. Edward Williams–dadleuon yn mhlith y Bedyddwyr yn Lloegr–dadleuon yn Scotland–yn yr America, yn mhlith yr Annibynwyr, ac yn yr Eglwys Henaduriaethol–yr Eglwys hono yn cael ei rhwygo ganddynt yr un pynciau yn codi i sylw yn Nghymru–dyfodiad y Wesleyaid i'r wlad yn effeithio yn wahanol ar wahanol feddyliau yn mhlith y Calviniaid—Mr. Christmas Evans yn cymmeryd un cyfeiriad, yn ei lyfr ar "Neillduolrwydd y Prynedigaeth"–Mr. John Roberts yn cymmeryd cyfeiriad arall, yn y "Cynnygiad Gostyngedig"—Mr. Thomas Jones, yn ei "Ymddyddanion ar Brynedigaeth," yn annghytuno a'r ddau–Mr. Christmas Evans yn ateb Mr. Thomas Jones–Mr. Jones yn ei ateb yntau, mewn "Llythyr at y Bedyddwyr"–dau Lythyr oddiwrth rai o'r Bedyddwyr ato yntau–Mr. John Roberts yn ateb Mr. Jones, yn ei Lyfr, "Galwad Ddifrifol"–Mr. Jones yn marwy ddadl yn cael ei pharhau—"Amddiffyniad o'r Ymneillduwyr" gan Mr. Cadwaladr Jones–pregeth ar Iawn Crist gan J. P. Davies, Tredegar–dadleuon yn Seren Gomer rhwng Mr. John Phillip Davies a Mr. John Jenkins, Hengoed, ac ereill "Golwg Ysgrythyrol ar Iawn Crist," gan Francis Hiley–y Cymro Gwyllt ac ereill yn Ngoleuad Cymru—Mr. John Roberts yn ateb yn y Dysgedydd Mr. Richard Jones o'r Wern yn cyhoeddi "Drych y Dadleuwr Llythyrau arno yn y Dysgedydd—" Athrawiaeth yr Iawn," gan Mr. Samuel Bowen—pregeth Dr. Lewis ar Brynedigaeth—" Y Cawg Aur," gan Mr. Daniel Evans—ysgrif yn y Drysorfa, "Crist yn ddioddef cospedigaeth ei bobl," gan Mr. Henry Rees–dadl eto yn y Dysgedydd rhwng Mr. Christmas Evans ac Edeyrn–"Sefyllfa Prawf," gan Mr. D. Davies, Pant-teg–dadleuon yn y Dysgedydd ar Ddylanwadau yr Ysbryd "Y Pregethwr a'r Gwrandawr"–yr atebion iddo yn y Dysgedydd–y dadleuon yn awr yn terfynu—argyhoeddiad yn cynnyddu yn y naill blaid a'r llall nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt yn cyffwrdd a hanfod yr Efengyl–y Weinidogaeth yn cymmeryd gwedd fwy Biblaidd a llai Cyfundraethol–dadleuon ein Tadau erbyn hyn braidd yn anhygoel i ni.

RHAN III.

Dadleuon yn Nghorph y Methodistiaid: 1814–1841.

Y dadleuon yn effeithio tu fewn i gyfundeb y Methodistiaid–golygiadau yr Hen Fethodistiaid–dyfodiad y Wesleyaid i Gymru yn gyru rhai i eithafion ar yr ochr wrthwynebol–Penderfyniad Cymdeithasfa y Bala ar yr Iawn, yn y flwyddyn 1809