Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn, yr ydym yn cael iddo bregethu, yn ystod y blynyddoedd hyny, ddwy fil saith gant a phymtheg a thriugain o weithiau. Y mae ganddo yn y llyfr golofn am y lle, colofn am y testyn, a cholofn am ei syniad a'i brofiad ei hunan am yr oedfa. Y mae ganddo amryw eiriau er dynodi yr oedfa:—go dda; da; gwlaw (ystyr yr hyn ydyw, gorfoledd mawr); gweddol; caled; ac, weithiau, gwael. Yr ydym ni wedi teimlo cryn lawer o ddyddordeb wrth gymharu yr Adroddiadau hyn o'i eiddo ef â'n hadgofion ein hunain am amryw o'r oedfaon y cyfeirir fel hyn atynt. Y mae yn ymddangos i ni, can belled ag y gallwn ni gasglu, fod ei syniadau a'i deimladau ei hunan yn cyfateb gan amlaf i eiddo ei wrandawwyr, tra, weithiau, yn ol côf pendant sydd genym, y byddai y gynnulleidfa dan deimladau dwysion, pryd yr oedd efe yn ystyried ei fod yn cael oedfa galed iawn. Nid ydym yn gwybod pa fodd i roddi cyfrif am hyny i'r fath raddau, oddieithr ei fod yn y cyfamser yn llawer llai dibynol ar deimladau y gynnulleidfa nag ydoedd mewn blynyddoedd diweddarach. Yr ydym yn tueddu i dybied fod y bregeth y pryd hyny yn cael meddiant mor lwyr ar ei feddwl fel ag i'w daflu braidd i ebargofiant o'i wrandawwyr, ac yn ganlynol yr oedd yn ei barnu nid yn gymmaint oddiwrth ei heffeithiau arnynt hwy oddiwrth ei dylanwad arno ef ei hunan. Yr oedd yr unigedd teimlad yna i'w ddarllen braidd, yn yr adeg y cyfeiriwn ati, yn ei ymddangosiad yn y pulpud—gan y byddai yn sefyll yn yr unfan, heb symmud na throed na llaw na llygad, ac yn edrych yn sefydlog o'r dechreu i'r diwedd tua rhywle ar lawr y capel.

Ond yr ydym eto wedi crwydro oddiwrth ei hanes. Yn ol y cof-lyfr, y cyfeiriasom ato, ac yn lled fuan, ni a dybygem, wedi iddo roddi heibio weithio yn y Gloddfa, fe aeth am y tro cyntaf i Liverpool a Manchester, yn nechreu Awst, 1824. Pregethodd yn Liverpool, nos Sadwrn, Awst 7, mewn capel yn Great Cross Hall Street, capel a ddelid y pryd hyny dan ardreth gan y Methodistiaid, cyn adeiladu capel Rose Place. Ei destyn yno, oedd Psalm c. 2. Dyma ei bregeth gyntaf yn y dref, a chafodd gyfarfod hwylus iawn. Boreu drannoeth, y Sabbath, pregethodd drachefn yn yr un lle, oddiar Luc ix. 56. Yn y prydnawn yr oedd yn Bedford Street, ac yn pregethu gyda nerth mawr, odddiar Job xiii. 9; ac yn yr hwyr yn Pall Mall, yn hynod o rymus ac effeithiol, oddiar Galatiaid ii. 16. Pregethodd drachefn yn Pall Mall, y nos fawrth canlynol, oddiar loan iv. 24; ac yn Bedford Street, nos fercher, oddiar