Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dat. xiv. 13. Aeth y nos iau i Runcorn, lle y pregethodd i gynnulleidfa fechan, ond gyda rhyw hwyl ryfeddol, oddiar Dat. xxii. 1. Yr oedd nerth annghyffredin yn ei weinidogaeth, ac effeithiau rhyfedd oddiwrthi ar y gwrandawwyr, yn Liverpool y tro hwn. "Da," medd efe ei hunan, am ei holl oedfaon yn Liverpool, ar yr ymweliad cyntaf hwn o'i eiddo â'r dref hono.

Aeth at y Sabbath canlynol, Awst 15, i Manchester, lle y pregethodd dair gwaith. Ei destyn, yn y boreu, ydoedd Zechariah ix. 12; yn y prydnawn, Rhuf. viii. 4; ac yn yr hwyr, Dat. xxii. 1. Cafwyd cyfarfod hynod iawn yn Manchester yn yr hwyr, y Sabbath hwnw. Mae yno rai eto yn cofio yn dda am dano, ac nis gallant ei annghofio byth. Yr oedd yno ryw beth yn y capel ag oedd yn dwyn argyhoeddiad i bob cydwybod fod Duw yn wir yn y lle. Rhoddodd y fath foddhad i'r cyfeillion yno yn ei weinidogaeth y Sabbath hwnw, fel y gwnaethant gais egnïol ar gael ganddo ddyfod yno i drigiannu, ac ymsefydlu yn weinidog yn eu plith, gan addaw gwneyd mor haelionus ag y gallent tuag at ei gynhaliaeth. Ond yr oedd ei anwybodaeth o'r iaith Saesonaeg, ac, yn neillduol, ei fod erbyn hyn wedi ymsefydlu yn Nhalsarn, gyda gobaith am fywioliaeth gysurus yno, a'r fantais fwy, yn ei feddwl ef, oedd ganddo i wneyd daioni i'w gyd-genedl yn Sir Gaernarfon nag a allasai gael mewn lle fel Manchester, yn ddigon i beri iddo ddewis peidio cydsynio â'r cais. Yr oedd yn teimlo, yr un pryd, yn dra diolchgar i gyfeillion Manchester am eu sylw o hono, ac yn parhau, hyd ddiwedd ei oes, i'w ystyried ei hunan dan fesur o rwymedigaeth iddynt. Yr oedd amgylchiadau teuluaidd yn ei alw adref fel nas gallodd aros am y mis, yn ol y drefn arferol y pryd hyny, i wasanaethu yr achos yn y trefi. Dychwelodd o'i ymweliad cyntaf hwn â hwynt yn llai profedigaethus nag yr oedd wedi ofni y buasai, oblegyd ei ddiffyg mewn cydnabyddiaeth â'r iaith Saesonaeg, er nad heb deimlo fwy nag unwaith radd o anfantais oddiwrth y diffyg hwnw. Meddyliodd yn sicr y pryd hyn am ymroddi i ddysgu y Saesonaeg, a gwnaeth ryw ddarpariadau mewn llyfrau tuag at hyny; ond, gan ofalon gweinidogaethol a gofalon teuluaidd, oeddent erbyn hyn yn llïosogi, ni roddes y meddwl hwnw byth mewn gweithrediad.

Yn Nghymdeithasfa Caernarvon, yr hon a gynnaliwyd yn niwedd Medi neu ddechreu yr Hydref canlynol (nid yw y dyddiad genym) yr ymddyddanwyd ag ef gyntaf mewn Cymdeithasfa ac y derbyniwyd ef yn