Aelod o honi, ac felly yn bregethwr rheolaidd i'r holl Gyfundeb. Bu hyny yn fesur o ymwared iddo, canys er, dybygid, fod caniatâd iddo ef o'r blaen i fyned i ba le bynnag y gelwid arno, yr ydoedd yn edrych arno ei hunan yn cael ei oddef yn hytrach nag yn un a hawl ganddo, ac felly yn teimlo gradd o anesmwythder pa bryd bynnag y byddai yn myned ar ddim tebyg i daith i Siroedd ereill. Yr oedd brawd neu ddau yn cael eu derbyn yr un amser ag ef, ac amryw frodyr ieuainc, ond hŷn nag ef ac wedi eu derbyn o'r blaen i'r Gymdeithasfa, yn cael ymddyddan â hwynt yn nghyfarfod y pregethwyr y Gymmanfa hono. Gan mai John Jones oedd yr ieuangaf o honynt âg ef yr ymddiddanwyd ddiweddaf. Yr oedd Mr. Elias, Mr. John Roberts, Llangwm, Mr. Ebenezer Morris, Mr. William Morris, heblaw llawer o frodyr ereill ieuengach, a'r pryd hwnw llai eu dylanwad, yn y Gymdeithasfa hono. Yr oedd yr ymddyddan, ar du y dieithriaid oeddent yn bresennol, yn hynod o garedig a chefnogol i'r holl frodyr ieuainc. Ond yr oedd John Jones wedi sylwi fod rhai hen frodyr o Sir Gaernarfon—un yn neillduol—gyda chryn lawer o gymmeradwyaeth i'w hymroddiad, eu llafur, a'u ffyddlondeb, eto yn dwyn rhyw gyhuddiad yn erbyn pob un o honynt. Yr oedd un yn bob peth, ond fod yn rhy hawdd ganddo dori ei gyhoeddiad; un arall yn rhagorol, ond ei fod yn rhy ansefydlog ac yn symmud ei drigle yn rhy fynych; un arall yn dda iawn ond ei fod yn pregethu yn rhy hir; un arall yn hynod o gymmeradwy, ond ei fod yn annoeth os nad yn falch, yn gwneyd ac yn pregethu gormod o bregethau ar yr un testyn; "Dyma fo," meddai un brawd, am un o honynt, "fe bregetha dair pregeth ar yr un testyn. A oes rhyw reswm yn hyny ?" Yr oedd John Jones, er ys meityn, wedi gwneyd ei feddwl i fynu y byddai rhyw fai arno yntau, ac yn ceisio dyfeisio pa beth a allai fod. Yr oedd yn gwybod ei fod ef yn dra euog yn ngwyneb y cyhuddiadau a ddygasid yn erbyn dau o'r brodyr-pregethu yn hir, a phregethu amryw bregethau ar yr un testyn, ac oni buasai ei fod yn gweled na buasai digon ole i athrylith y rhai oeddent yn cwyno ddarganfod bai ddyfod felly i'r golwg, buasai yn tueddu i dybied mai un o'r rhai hyny, os nad y ddau, a ddygid yn ei erbyn ef. Yr oedd braidd yn sicr, er mwyn digon o amrywiaeth, y byddai yn fai newydd, na ddygasid yn erbyn yr un o'r lleill, ac yn ceisio dyfalu pa beth a fyddai. O'r diwedd daeth ei dro yntau. Ymddyddanwyd yn nodedig o garedig âg ef gan Mr. John Roberts am ei brofiad; gan Mr. Elias am ei olygiadau ar
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/152
Prawfddarllenwyd y dudalen hon