Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/153

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr athrawiaeth; a chan Mr. Ebenezer Morris am ei gymhelliadau at waith y weinidogaeth a'i brofiad yn awr ynddo. Yr oedd ar feddwl y byddai efe yn dianc heb gael un bai yn ei erbyn: ond pan oedd y Cadeirydd ar roddi ei achos i fynu i'w gyflwyno i Gyfarfod y Pregethwyr a'r Blaenoriaid, oeddent i ymgynnull am ddau yn y prydnawn, cyfododd un o'r brodyr i fynu ac a ddug dystiolaeth gymmeradwyol iawn iddo, ei fod yn ŵr ieuanc anwyl iawn a derbyniol iawn trwy yr holl Sir, ac yn fwy poblogaidd na neb o honynt, ac nad oeddent hwy wedi clywed ond un cwyn erioed yn ei erbyn ef oedd a dim newydd ynddo, a hyny oedd, ei fod yn pregethu braidd yn dywyll. Taraw wyd John Jones â syndod, ac â mesur o ddigllonedd, wrth glywed y cyhuddiad hwn, oblegyd yr oedd yn sicrach yn awr nag oedd o'r blaen mai cyhuddo braidd er mwyn cyhuddo yr oeddent, a'u bod hefyd yn chwilio am rywbeth newydd yn erbyn pob un, ac yr oedd yn hawdd gweled fod dau o'r brodyr oeddent benaf, ac agos yn hollol, yn dwyn y cyhuddiadau, wedi bod yn ymddyddan â'u gilydd yn flaenorol yn eu cylch, ac wedi trefnu eu crybwyll yn y Gymdeithasfa. Ar hyny fe gododd Mr. Ebenezer Morris, yr hwn oedd wedi gwrandaw John Jones yn pregethu fwy na blwyddyn cyn hyny yn Llangeitho, ac a ofynodd yn garedig iddo, "Y'ch chwi, frawd, yn amcanu pregethu yn dywyll ?" "Na fyddaf fi, Syr," ebe yntau, gyda mwy o hyfdra nag a ddangosasai yn yr holl ymddyddan, oblegyd yr oedd yn teimlo braidd yn ddigllawn, "mi fyddaf fi yn ymdrechu i geisio deall pob mater y byddaf fi yn pregethu arno mor eglur ag y gallaf yn fy meddwl fy hun, ac yn chwilio am y geiriau goreu a mwyaf eglur a allaf fi gael i'w wneyd yn oleu i'r bobl. Fyddaf fi ddim yn amcanu pregethu yn dywyll." "Glywsoch chwi mo'r bobl yn cwyno, yma a thraw ar hyd y wlad, eich bod chwi yn pregethu yn dywyll ?" "Naddo, Syr; yr oeddwn i yn ceisio meddwl, yrwan, oeddwn i wedi clywed rhyw un yn cwyno felly; ac yr ydwyf fi yn methu cofio am neb." "Fu neb yn eich holi chwi yn Nhy 'r Capel, am ryw eglurhâd pellach ar rywbeth oeddech chwi wedi ddywedyd yn y bregeth nad oeddent hwy yn ei ddeall? Hwy fyddent yn dyfod felly, weithiau, at yr Athraw mawr ei hunan i'w holi am ryw oleu newydd, Eglura i ni ddammeg efrau 'r maes.' Fu neb felly yn eich holi chwi ?" "Na, nid ydwyf fi yn cofio am ddim un tro erioed y bum i yn hyny mor ffodus a bod yn debyg i Iesu Grist, trwy fod neb yn fy holi i felly." "Fu yr un o'r brodyr hyn, y gwŷr da yma,