Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn eich cynghori i ymdrechu pregethu dipyn yn fwy eglur, gan eich hysbysu fod ychydig gŵyn, yma a thraw drwy'r wlad, eich bod yn pregethu yn dywyll." "Naddo yn wir, Syr, ni fu yr un o honynt erioed yn sôn un gair am y fath beth wrthyf; ac mi fuaswn yn teimlo yn rhwymedig a diolchgar iawn iddynt pe buasent wedi gwneyd." Ar hyny fe newidiodd ei ddull, ond eto yn hynod o garedig, "Wel, frawd bach, y cynghor ro'wn i i chwi fyddai, ar i chwi ofalu cadw tipyn o dân yn eich tŷ bach eich hunan, tipyn o farworyn cynhes ar eich aelwyd eich hunan. Peidiwch myned yn rhy aml i'w tai hwy; hwyrach mai lle daran (braidd) oer gaech chwi yno. Cedwch gryn lawer gartref, a chedwch ddigon o dân ar eich aelwyd eich hun." Ac yna fe droes gydag awdurdod at y brodyr oeddent wedi bod yn nodi y beiau ar y cyfeillion ieuainc, gan eu hannog i chwilio i mewn iddynt eu hunain, a holi mwy arnynt eu hunain, a pheidio dychymygu eu bod eu hunain gymmaint uwchlaw eu brodyr ag i'w gwneyd yn arglwyddi arnynt, ond bod bawb yn gyd-ostyngedig â'u gilydd, a gofalu, mewn cariad, am wasanaethu eu gilydd. Ceisiodd Mr. Elias ddywedyd ychydig eiriau i dynu y drain o'u hystlysau: ond yr oeddent wedi myned yn rhy ddwfn; a bu y brawd oedd benaf yn y camwedd o hyny hyd ddiwedd y Gymdeithasfa mor ddistaw ag odid neb oedd wedi dyfod iddi. Teimlai John Jones byth yn nodedig o garedig at goffadwriaeth Mr. Ebenezer Morris, oblegyd cyfryngu o hono yn y fath fodd, ac yn y fath amgylchiad, yn ei blaid. Clywsom ef ein hunain. fwy nag unwaith yn cyfeirio at y tro. Ac yr oedd Mr. Samuel Morris, Twr Gwyn, mab yr hen bregethwr, yn ddiweddar yn dywedyd wrthym, na byddai byth yn cyfarfod â John Jones na byddai yn adgofio iddo diriondeb ei dad ato y pryd hwn. "Mi a allaswn," meddai, "fyned ato a'i gofleidio yn y fan."

Yn niwedd y flwyddyn hon, aeth i Gymdeithasfa Llanrwst. Dywed ei hunan, yn y Coflyfr, "Dechreuais yr oedfa yn Sassiwn Llanrwst, Rhag. 31, 1824." Yr ydym ni wedi synu, braidd, erbyn troi at yr Adroddiad a gawn am y Gymdeithasfa hon, yn Ngoleuad Cymru am Ebrill, 1825, Llyfr iv. tu dal. 86, na buasai yn cael ei nodi i bregethu ynddi ryw oedfa neu arall. Ni a ddodwn yr Adroddiad i mewn yma, yn gyflawn, er mwyn i'n darllenwyr weled mor raddol, er ei holl boblogrwydd fel pregethwr, y daeth ei deilyngdod i gael ei gydnabod yn ein cyfarfodydd mwyaf cyhoeddus:—" Cynnaliwyd Cymdeithasiad