Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/155

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddol y Trefnyddion Calvinaidd yn Llanrwst ar y 30ain a'r 31ain o Ragfyr diweddaf. Gan fod y dyrfa yn rhy liosog i'w Capel hwy ei chynnwys, a bod yr hin a'r tymmor yn peri ei bod yn annghyfaddas i gynnal yr odfeuon yn y maes, bu yr Anymddibynwyr yn y dref mor gymmwynasgar a rhoi benthyg eu haddoldy, ac felly rhanwyd yr odfeuon llïosocaf rhwng y ddau Gapel. Y moddion oeddynt yn y drefn ganlynol:—Y nos gyntaf pregethodd Mr. G. Solomon a Mr. Cadwaladr Williams o Fôn. Yr ail nos, pregethodd Mr. Robert Davies o Swydd Drefaldwyn, a Mr. David Cadwaladr. Y boreu dranoeth, pregethodd Mr. John Humphreys. Am 10 ar y gloch, yn nghapel y Trefnyddion, pregethodd Mr. Daniel Jones o Swydd Gaernarfon, a Mr. John Hughes o Swydd Drefaldwyn. Ar yr un awr yn nghapel yr Anymddibynwyr, pregethodd Mr. Daniel Williams o Swydd Drefaldwyn, a Mr. G. Solomon. Am 2 o'r gloch, yn nghapel y Trefnyddion, pregethodd Mr. J. Prytherch o Fôn, a Mr. John Roberts o Langwm. Yr un awr, yn nghapel yr Anymddibynwyr, pregethodd Mr. John Edwards o'r Berthen Gron, a Mr. John Hughes o Swydd Drefaldwyn. Yn yr hwyr, yn nghapel y Trefnyddion, pregethodd Mr. Wm. Roberts, Clynog, a Mr. G. Solomon. A'r un awr, yn nghapel yr Anymddibynwyr, pregethodd Mr. Daniel Jones a John Roberts. Y boreu olaf, yn nghapel y Trefnyddion, pregethodd Mr. Foulk Evans a Mr. John Peters. "Yn sicr fe allesid meddwl y buasai digon o le, heb wneyd un cam a neb, i John Jones, Talsarn, gael pregethu ryw bryd yn y Gymdeithasfa hon. Nid oedd yno gymmaint ag un i'w gymharu ag ef braidd mewn un cymhwysder, hyd yn nod y pryd hwnw, i sefyll yn gyhoeddus yn y fath le; ac yr oedd ei boblogrwydd, o'r dechreuad, yn Llanrwst a'r cymmydogaethau y fath, fel y mae yn ddiammheuol genym na wrandewsid ar neb gyda mwy o hyfrydwch gan y dyrfa i gyd. Y mae yn rhy anhawdd i ni, yn y pellder yma o ran amser, ddyfalu pa beth a allasai arwain y brodyr yno i wneuthur y fath drefniad. Er nad oedd efe heb deimlo pan elid heibio iddo ar achlysuron o'r fath, eto yr ydoedd yn rhy gall i gymmeryd arno i ereill ei fod yn teimlo dim; ac yn benderfynol i lafurio hyd eithaf ei allu gyda'r gwaith mawr o ran cydwybod i'w Feistr a chan gofio y farn, heb sylwi nemawr pa gyfrif a wneid o hono gan ddynion, nac hyd yn nod gan ei frodyr, y rhai y cyd-lafuriai â hwynt.