Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/156

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

O'I DDERBYNIAD YN AELOD O'R GYMDEITHASFA HYD EI ORDEINIAD: 1824—1829.

Ymroddiad hollol i'r gwaith—taith gyntaf trwy Sir Fôn—Sabbath yn Rhoscolyn a Chaergybi—taith gyntaf trwy Sir Drefaldwyn—ei bregeth gyntaf mewn Cymdeithasfa —taith i Siroedd Dinbych a Fflint—dechreuad cyfeillgarwch neillduol â brodyr ynoymroad i lafurio am wybodaeth gyffredinol—Cymdeithasfa Llanerchymedd, 1826—Cymdeithasfa Llangeitho—taith drachefn i Sir Fôn—Cymdeithasfa Caergybi—Cymdeithasfa Llanrwst—taith drachefn trwy Siroedd Dinbych a Fflint—ei daith gyntaf i Siroedd Brecheiniog, Morganwg, a Chaerfyrddin—Cymdeithasfa Penybont—ar—ogwry bregeth yn gorchfygu y Ffair Wagedd yn Abertawy—Mr. Elias ac yntau yn Llanymddyfri—pregethu am y tro cyntaf yn Nghymdeithasfa y Bala, 1827— Cymdeithasfa Amlwch—Sabbath hynod yn Mangor—ymweliad â Liverpool a Manchester—Cymdeithasfaoedd Beaumaris a Dolgelleu, 1827—Cymdeithasfa Bangor, 1828—ei ymweliad cyntaf â Llundain—nodwedd fwy ymarferol ar ei bregethau ei ordeiniad.

Yr oedd John Jones yn awr wedi ei dderbyn yn aelod rheolaidd o'r Gymdeithasfa, ac felly yn meddiannu llawn ryddid i fyned ar gyhoeddiad, trwy gydsyniad Cyfarfod Misol ei Sir, i ba le bynnag y gelwid arno ac y tueddid ei feddwl ei hunan ato; yr oedd gyda hyny, erbyn hyn, mewn amgylchiadau oeddent yn llawer mwy manteisiol iddo i fyned felly yn achlysurol; a chyda hyny hefyd, yr oedd yn awr yn berchen ceffyl, a brynasid ganddo yn uniongyrchol at wasanaeth yr efengyl, ac er ei gynnorthwyo yn ei deithiau meithion at y Sabbathau, yn gystal ag i amryw fanau yn ystod yr wythnos. Mae yn gofus genym fel doe, ar ddydd Llun y Pasg, 1835, pan yn croesi mynydd y Cilgwyn gydag ef o Dalsarn at Gyfarfod Pregethu oedd y diwrnod hwnw yn Rhos Tryfan, ei glywed yn dywedyd wrthym, wrth fyned heibio i ryw le neillduol ar y mynydd, "Dyma'r llecyn y bum i yn gweddïo, os caniatai Rhagluniaeth, gyntaf erioed am geffyl. Yr oeddwn yn dyfod o Fangor ryw