Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/157

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddydd Llun, wedi bod yno am y Sabbath, ac wedi blino yn fawr, wedi cerdded yno ac yn ol, a phregethu yn o galed ar y Sabbath, a hyny dair gwaith. Eisteddais ar y gareg yma i ddadluddedu ychydig; yna aethum i'r hen gorlan acw i geisio gweddio ar yr Arglwydd. Yr oeddwn yn gweled fod genyf neges go ryfedd; ond ni bu neb erioed yn gofyn dim yn fwy gonest, nac ychwaith, yr ydwyf yn credu eto, gyda gwell amcan. Dywedais wrth yr Arglwydd ei fod ef yn gwybod fod ar fy nghalon wneyd cymmaint o ddaioni ag a allwn gyda'i waith mawr yn y byd, a gofynais iddo a wnai efe beidio digio wrthyf am ofyn iddo, a wnai efe rwyddhau y ffordd i mi i gael ceffyl i'm cario yn ol ac yn mlaen i'm Cyhoeddiadau." Mae Mr. William Owen, Penbrynmawr, Llanllyfni, yn anfon atom iddo yntau ei glywed yn dywedyd yr un peth, ac yn ychwanegu, na ddarfu iddo ef, hyd y dydd heddyw, allu myned heibio i'r lle hwnw heb gofio am yr hyn a ddywedasai John Jones wrtho, a gymerasai le yn y fan hono. Ond yr hyn oedd genym dan sylw oedd, ei fod yn awr yn meddiannu hawl, ac mewn amgylchiadau mwy manteisiol, i ymweled â Siroedd ereill, nag y buasai erioed o'r blaen. Ac yr oedd y galwadau arno yn daer, ar yr un pryd, agos o holl Siroedd Cymru. Yr oedd mewn gradd o betrusder i ba le yr âi gyntaf. Pa fodd bynnag, fe benderfynodd fyned yn gyntaf oll i Sir Fôn. Yr oedd wedi bod amryw weithiau am Sabbath yn Môn, yn y lleoedd sydd agosaf i Arfon, yn neillduol tua'r Dwyran a Brynsiencyn. Yr oedd cryn gyfeillgarwch rhyngddo â Mr. Robert Jones o'r Wrach Ddu, oedd y pryd hyny yn flaenor yn Brynsiencyn, ac yr oedd Mr. Jones wedi llwyddo, fwy nag unwaith, i'w gael yno. Ond yr oedd yn ddieithr hollol i gorph y Sir, er fod cryn sôn am dano, erbyn hyn, braidd yn mhob parth o honi. Dechreuodd y daith gyntaf hon trwy Sir Fôn, yn Brynsiencyn, ar nos Lun, Ionawr 21, 1825. "Gweddol" yw ei adroddiad ei hunan am yr oedfa hono. Dranoeth, Chwefror 1, yr oedd yn y Dwyran, am ddeg y boreu, ac yn Niwbwrch yr hwyr. "Da" ydyw y gair a ddefnyddir ganddo ef i ddynodi ei brofiad am yr oedfaon hyn. Aeth rhagddo drwy y Sir gan bregethu ddwywaith neu dair bob dydd, nes dibenu ei daith yn Llanfairpwllgwyngyll, ar nos Lun, Chwefror 14, a phrysuro rhyngddo a'r cartref drannoeth. Yr oedd ar y Sul, Chwefror 6, pan ar y daith hon yn Rhoscolyn yn y boreu am ddeg, ac yn Nghaergybi am ddau yn y prydnawn, ac am chwech yn yr hwyr. Dyma y pryd y gwelsom ac y clywsom ni ef gyntaf; a hwyrach y