Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/158

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goddefir i'r ysgrifenydd ddisgyn am ychydig i ddull mwy rhydd a chwedleuaidd i adrodd ei adgofion am y tro hwn.

Yr oedd fy nhad y pryd hyny yn gweithio yn Mangor, ac yn arfer dyfod adref i Gaergybi bob rhyw chwech wythnos neu ddeufis, dros y Sabbath, i ymweled â'r teulu. Rhaid i'r darllenydd ieuanc gofio nad oedd un Railway y pryd hwnw. Ar un o'r ymweliadau hyny, rywbryd yn yr haf blaenorol, yr oedd yn dywedyd wrthym yn y tŷ fod rhyw bregethwr anarferol wedi codi yn Sir Gaernarfon, a nerthoedd y nefoedd gydag ef bob oedfa, a'i fod yn tynu yr holl wlad ar ei ol. "Ni chlywaist ti Mari," meddai wrth fy mam, "neb erioed tebyg iddo fo." "Beth," ebai hithau, "a ydy' o cystal a John Elias ?" "Ddarfu i mi ddim dyweyd cystal na gwell na neb, ond ni chlywaist ti neb tebyg iddo fo. Ac y mae o gyda hyny y dyn harddaf a fu yn y byd yma er pan y crewyd Adda." Yr oedd hyn y nos Sadwrn, can gynted braidd ag yr oedd wedi dyfod i'r tŷ. Y nos Sabbath canlynol, fe'm cymmerodd i gydag ef i'r tŷ lle y byddai y pregethwyr braidd oll yn lletya, tŷ y diweddar Mr. John Roberts, Currier, ac yr oedd yno amryw gyfeillion yn nghyd, wedi galw i weled y pregethwr a wasanaethai yn Nghaergybi y Sul hwnw, ac i gael ychydig ymddyddan â'u gilydd. Yr oedd fy nhad yn llawn o'r pregethwr ieuanc a glywsai yn Mangor, ac fe ddechreuodd siarad am dano fel y gwnelsai yn ei dŷ ei hunan y noswaith o'r blaen. "Ah," meddai un o'r hen flaenoriaid, Mr. Richard Jones, ar ol gofyn beth oedd enw y pregethwr ieuanc, ac yn mha le yr oedd yn byw, "Chwi, Owen Thomas, gafodd rywbeth annghyffredin wrth ei wrando; hwyrach, wedi y cwbl, nad ydy' o ddim yn un mor hynod ag y mynwch chwi ei wneyd." " Peth annghyffredin, Richard Jones, onid oedd pawb yn cael peth annghyffredin? ac nid ydyw peth annghyffredin ddim yn annghyffredin iddo fo. Y mae y bregeth a rhyw fyn'd rhyfedd ynddi bob amser. Yr ydwyf fi wedi ei wrando laweroedd o weithiau erbyn hyn a'r un fath y mae o bob tro." Yr oedd gan yr hen frodyr gryn feddwl o farn fy nhad, ac yr oeddent yn llawenhau wrth glywed fod y fath bregethwr wedi codi, ac yn awyddus iawn am gael cyfleusdra i wrandaw arno. "Da chwi," meddent wrth fy nhad, pan y gwelwch ef eto, ceisiwch ei berswadio i ddyfod trwy Sir Fôn, fe gaiff bob croeso genym ni a allwn ni roddi iddo." Ryw bryd tua Chalangauaf, 1824, fe ddaeth fy nhad i Gaergybi drachefn i ymweled a'r teulu dros y Sabbath. Y pregethwr ieuanc o Sir Gaernarfon