Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syniadau gwahanol yn llithro i mewn–Mr. Elias, ac ereill, yn dadleu dros Iawn cydbwys–Mr. Jones, Dinbych, yn teimlo yn ddirfawr–dadleu brwd ar yr achos yn Nghymdeithasfa Rhuthin, 1815–Mr. Jones yn cyflwyno cwyn ar yr achos i Gymdeithasfa Llanrwst, 1815–ateb y Gymdeithasfa iddo–ei "Ymddyddanion ar Brynedigaeth" yn cael eu cymmeradwyo yn Nghymdeithasfa Dinbych, 1816–syniadau Mr. Richard Jones, wedi hyny o'r Wern, ar y pwnc, yn cael eu lledaenu mewn ysgrifen–pregeth Mr. Jones, Dinbych, ar yr Iawn, yn Nghymdeithasfa y Bala, 1816 –dadleuon mawrion yn y wlad yn y canlyniad–Mr. Jones yn cwyno drachefn wrth y Gymdeithasfa yn Nghaernarvon, 1816–Llythyr ato oddiyno–Cenadwri bwysig ar yr achos oddiwrth Gymdeithasfa y Deheudir at Gymdeithasfa y Gogledd Cyfarfod o brif Weinidogion y Gogledd yn Mangor, er ceisio dyfod i gyd–ddealltwriaeth cyn Cymdeithasfa Pwllheli, 1817–effeithiau hynod i sylwadau Mr. Richard Jones, o'r Wern, yn y Cyfarfod hwnw–Penderfyniad Pwllheli–Mr. Jones yn ail–gyhoeddi ei "Ymddyddanion," gydag Ychwanegiadau Cymdeithasfa y Deheudir yn cymmeradwyo y llyfr–dadleuon yn Nghaerwys, ac ymgais y Gymdeithasfa i'w tawelu–Mr. Elias yn cyhoeddi ei "Draethawd ar Gyfiawnhad "–dadleu cynhyrfus ar yr erthygl "Aberth Crist a'r Prynedigaeth," yn ffurfiad y "Cyffes Ffydd," 1823–Ysgrif gan Mr. James Hughes, Llundain, yn Ngoleuad Cymru–sylw Cymdeithasfa y Deheudir ar yr Ysgrif hono–cyhuddiadau yn erbyn Mr. Robert Roberts, Rhosllanerchrugog, a Mr. Morris Roberts, yn awr o'r America–annghydolygiad a chryn ymryson yn Sir Fflint–effeithiau hyny ar Siroedd ereill–amryw wŷr ieuainc yn cael eu drwg–dybio yn eu hathrawiaeth, Mr. John Jones yn enwedig–llawer o ddadleu yn Nghyfarfodydd Misol Sir Gaernarfon–awgrymiadau anngharedig yn y Cymdeithasfaoedd yn erbyn Brodyr ieuainc–Mr. Roberts, Amlwch, ar ol marw Mr. Richard Jones, yn wastadol yn cyfryngu i'w hamddiffyn–anesmwythder mawr yn y Cyfundeb–pennodiad Cyfarfod yn y Wyddgrug, i chwilio i mewn i achos Sir Fflint–pryder Mr. John Jones yn nghylch y Cyfarfod hwnw–Llythyr o'i eiddo at Mr. Thomas Richard, Abergwaen–atebiad Mr Richard iddo–y Gynnadledd yn eistedd–yr holl gyhudd'iadau yn syrthio i'r llawr–siomedigaeth y rhai oeddent wedi bod trwy y blynyddoedd yn cyhuddo eu brodyr–Mr. Elias yn marw–Cymdeithasfa Amlwch, 1841–adeg 'bwysig a pheryglus ar y Cyfundeb–tangnefedd hollol, yn raddol, yn cael ei adfer—pawb yn dysgu goddef eu gilydd mewn Cariad.

PENNOD XII.

BLYNYDDOEDD CYFLAWNDER EI NERTH: 1841–1849.

Rhyddid oddiwrth bryder Duwinyddol–gradd o friw yn aros yn ei deimlad–traddodi y Cynghor yn Nghymdeithasfa y Bala, 1841–ei feddwl yn cael iachâd hollolymosodiadau arno trwy y Wasg–amddiffyniadau iddo—ysbryd Ymfudo i America—ymroddiad diarbed i waith y Weinidogaeth –ei feddwl yn troi yn fwy at ochr Duw yn Nhrefn Cadw–Oedfa hynod mewn Cymdeithasfa yn Llanerchymedd, 1844–Cymdeithasfa Ffestiniog, 1844–ei boblogrwydd–Llythyr at y Parch. Roger Edwards—marwolaeth ei ferch, Elin–Llythyr o'i eiddo at Chwaer grefyddol ar yr achlysur—Llythyr ato oddiwrth Mr. Roberts, Amlwch–Eben Vardd yn ei gyfarch a rhai