Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y byddai yn ddiwrnod têg, er mwyn i ni gael myned i Roscolyn yn y boreu i wrandaw arno. Fe wawriodd y Sabbath; ac yr oedd, yn y boreu, yn ddiwrnod têg a hyfryd dros ben. Yr oeddem yn myned yn lluoedd, yn hen ac yn ieuanc, tua Rhoscolyn, a nifer mawr o'r rhai mwyaf awyddus yn myned mewn pryd er mwyn sicrhau lle yn y Capel. Rhaid i mi gydnabod fy mod yn myned yno gyda mesur o ragfarn ac ofn. Nid ofn iddo fethu, ond eiddigedd rhag iddo droi allan yn well pregethwr na'r un oedd yn fy meddwl i uwchlaw pawb, John Elias. Maddeued y darllenydd i mi; nid oeddwn ond plentyn ac yn meddwl yn blentynaidd. Fel yr oeddem yn nesu at y Capel, ni a welem Twm Charles, hen gyfaill a fyddai yn arfer dilyn pregethwyr y byddai rhyw neillduolrwydd ynddynt braidd drwy yr Ynys i gyd. "Ah !" meddem wrth ein gilydd, "y mae y pregethwr yma yn rhywbeth, dacw Twm Charles yn dyfod." Pan y daethom at y Capel, ni a welem ŵr ieuanc tal, lluniaidd, yn cerdded yn ol ac yn mlaen yn yr ardd, a het led gyffredin am ei ben, coat lâs am dano, ffunen sidan India am ei wddf, a golwg nodedig o feddylgar a difrifol arno, a chydâ y gwyneb prydferthaf, dybiais i ar y pryd, ac nid wyf wedi newid fy meddwl eto, a welswn i gan ddyn erioed. Ni feddyliais unwaith mai hwnw oedd y pregethwr; yr oedd ei wisg mor annhebyg i un: ond yr oeddwn yn tybied mai rhyw flaenor, o ryw le, yn gyfaill iddo ydoedd. Yr oeddwn i rywfodd, pa fodd bynnag, yn cael fy nhueddu gan ei wyneb i edrych arno, ac wrth fy ngweled yn ymdroi, dywedodd un o'r bechgyn wrthyf, "Dowch, dowch, onide chawn ni ddim lle, mae y Capel yn llenwi." Erbyn dyfod at y drws, yr oedd y Capel eisoes agos yn llawn, er fod cryn lawer eto o amser hyd bryd dechreu y gwasanaeth. Mi a ymwthiais, gyda chyfeillion ieuainc ereill o Gaergybi, nes cyrhaedd ychydig yn mlaen, nid yn hollol i ganol y Capel, ac eto yn ddigon pell i gael golwg gyfochrog ragorol arno, ac yn ddigon agos i weled y llinellau lleiaf yn y wynebpryd ac i glywed pob gair a ddywedai. Wedi hir ddysgwyl yno, yn y tŷndra, ni a glywem ryw gyffro tua 'r drws, a dacw y gŵr ieuanc a welsem yn yr ardd, ryw hanner awr yn ol, yn gweithio ei ffordd tua 'r pulpud. "Dyna y cyfaill," meddwn wrthyf fy hun, "yn myned i ddechreu yr oedfa." Rhoes bennill allan i'w ganu. Darllenodd bennod. Nid ydwyf yn cofio y pennill, na'r bennod; nac yn meddwl fod dim hynod yn y dull y rhoddwyd y naill allan, nac y darllenwyd y llall. Ar ol darllen y bennod, aeth i weddi. Yr oedd yn awr ryw