Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/161

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth annghyffredin i'w glywed. Y fath wylder; y fath hyder; y fath gydnabyddiaeth âg angenion pechaduriaid; y fath ddadleu â'r nefoedd am gyflenwad o honynt o'r trysorau anfesurol a'r goludoedd anchwiliadwy sydd yn Nghrist Iesu; y fath fanylder mewn cyfeirio at amrywiol ddosbarthiadau a graddau ac amgylchiadau dynion, gan ddeisyfu ar eu rhan yr hyn a allai fod yn eisiau arnynt; y fath daerni, yn enwedig, yn mhlaid llwyddiant teyrnas y Gwaredwr yn ein gwlad ein hunain, a thrwy wledydd y byd yn gyffredinol; ac yn neillduol am y presennoldeb Dwyfol gyda ni y diwrnod hwnw;-a hyn oll gyda geiriau mor briodol, aceniad mor gywir a phrydferth, llais mor soniarus a pheraidd, ac yn arbenig gyda theimlad mor ddwfn a dwys, ac mewn ysbryd mor ddefosiynol, nes yr oedd y lle, yn mhell cyn iddo gyrhaedd yr "Amen," yn un bywyd trwyddo. Yr oedd genyf fi er yn blentyn ryw wrthwynebiad teimlad i arddangosiad o ddoniau helaeth a rhyw hwyliau uchel wrth weddïo. Ond dyma weddio gyda mwy o hyawdledd o ddim cymhariaeth nag a glywswn erioed, ac eto nid oedd bosibl peidio ei hoffi. Erbyn i'r gŵr ieuanc ddarfod gweddïo nid oedd neb arall wedi myned ato i'r pulpud. Ac nid oedd eisiau neb. Efe, er y goat o frethyn glâs a'r botymau gloew, a'r ffunen sidan India goch am y gwddf, Efe ydyw y pregethwr. Ac yr ydym yn llawenhau yn y meddwl nad oes yna neb arall, ac y cawn fod am awr neu ddwy eto o dan ddylanwad y gwyneb prydferth, y llygaid treiddgar, y llais peraidd, a'r meddwl nerthol yna. Rhoddes bennill drachefn i'w ganu. Yna darllenodd ei destyn, Psalm c. 2. "Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o'i flaen ef a chân." Dechreuai yn dawel ac arafaidd, ac mewn llais rhy isel braidd, hyd yn nod mewn Capel bychan fel hwnw. Ond yr oedd y sylwadau mor naturiol a phriodol, y geiriau mor ddetholedig a'r brawddegau wedi eu ffurfio mor brydferth, a thoriad y geiriau mor groyw a hysain, fel yr oedd pob clust o'r dechreuad wedi ei rhwymo i wrando arno. Fel yr oedd yn myned rhagddo, llefarai yn gyflymach, ac mewn llais uwch, ac yr oedd y drychfeddyliau yn dyfod yn fwy bywiog a nerthol, a theimladau y gynnulleidfa yn codi yn raddol, raddol, nes eu dwyn yn mhen ychydig yn gwbl dan lywodraeth ganddo. Yr oedd Mr. Richard Roberts, mab Mr. John Roberts, Currier, yr hwn oedd tua saith mlynedd, mi dybiwn, yn hynach na mi, a'r pryd hyny yn llanc ieuanc tal a chryf, ac yn awr ei hunan yn flaenor yn Nghaergybi, yn sefyll tu cefn i mi yn y dorf ac