Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/163

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymmaint o hwyl yn yr oedfa y nos, er ein bod yn cofio yn dda mai y bregeth hono oedd wedi dal yn benaf ar feddyliau y gwrandawwyr, ac mai o honi hi yr adroddid mwyaf, yn y cyfarfodydd eglwysig, yr wythnosau canlynol. Ei adroddiad ef ei hunan am oedfaon y Sabbath hwnw ydyw—Rhoscolyn—" da;" Caergybi 2, "da;" Caergybi 6, "gwael" neu "gweddol." Methasom a gwneyd allan yn gwbl pa un o'r ddau air a arferir ganddo. Buasai pawb ond efe ei hunan yn ei galw yn dda; ac ni buasai neb yn meiddio rhyfygu defnyddio y gair "gwael," nac hyd yn nod "gweddol," am dani. Yr un pryd, yr ydym yn cofio ein bod yn meddwl yn yr oedfa hono, ac y mae y dybiaeth yn lled gref yn ein meddwl eto, fod y ganmoliaeth uchel a roddasid iddo gan Mr. Elias y Sabbath o'r blaen, wedi bod yn radd o anfantais iddo yn Nghaergybi; ac y buasai yr effeithiau ar y gynnulleidfa, oddiwrth ei weinidogaeth, yn llawer mwy, oni buasai fod dysgwyliadau mor uchel wedi eu codi yn meddyliau y bobl am dano.

Ar y degfed ar hugain o fis Mai y flwyddyn hon, drachefn, fe gychwynodd i daith am y tro cyntaf trwy Sir Drefaldwyn. Yr ydym yn cofio ei glywed yn dywedyd ei fod yn cychwyn i'r daith hon yn nodedig o isel a digalon, yn fwy felly braidd nag y bu yn cychwyn i daith erioed. Nid ydym yn cofio, os dywedodd wrthym, pa beth yn neillduol a barai iddo deimlo felly. Ond yr oedd graddau o hyny yn wastadol, ac i'r diwedd arno, pan yn myned i le dieithr, ac yn enwedig pan yn cyfarfod â, ac yn gorfod pregethu yn nghlywedigaeth, gweinidogion a phregethwyr nad oedd yn adnabyddus o honynt. Dichon nad oedd dim arall yn peri iddo deimlo felly y pryd hwn. Pa fodd bynnag, fe gafodd daith nodedig o gysurus iddo ei hunan, a thra bendithiol i'r holl leoedd agos yr ymwelodd â hwynt. Yr oedd yn pregethu bob tro gydag yni a dylanwad annghyffredin, ac yn tynu y bobl yn lluoedd, o'r naill gapel i'r llall, ar ei ôl. Clywsom hen gyfeillion y Drefnewydd yn sôn llawer am ei bregeth gyntaf yno, ar Dat. xxii. 1. Yr oedd efe ei hunan yn hoff iawn o'r bregeth hono, ac ni byddai braidd un amser yn ei thraddodi heb fod effeithiau cryfion ar y gynnulleidfa drwyddi. Sicrhawyd i ni gan y diweddar Barch. Robert Davies, Llanwyddelen, fod ymweliad cyntaf John Jones â Sir Drefaldwyn yn un o'r pethau mwyaf bendithiol a gafodd y Sir erioed, ac, mewn rhai manau, yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos.

Yr oedd yn dibenu ei daith yn y Sir gan fyned tua Chymdeithasfa y