Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/164

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bala, yr hon a gynnhelid ar ddydd Mawrth, a Mercher, ac Iau, Mehefin 14eg, 15eg, a'r 16eg. Nid ymddengys ei fod wedi cael ei enwi i wneyd dim yn y Bala y flwyddyn hono. Yr ydym yn sicr nad ydoedd yn pregethu yno; ac nid ydym wedi gallu deall, trwy neb, ei fod yn dechreu yr un o'r oedfäon; ac yr ydym braidd yn tybied, pe buasai, y cawsem ryw gyfeiriad at hyny yn yr hen goflyfr. Yr wythnos ganlynol, aeth i Sir Fôn, i'r Gymdeithasfa yno, yr hon a gynnhelid y flwyddyn hono yn Llangefni, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, Mehefin 21ain, a'r 22ain. Yr oedd yn pregethu yn Niwbwrch, nos Lun yr 20ed, lle y cafodd oedfa lewyrchus iawn. "Da" ydyw ei air ef ei hunan am dani. Aeth oddiyno, drannoeth, tua Llangefni, yn lled bryderus ei feddwl. Yr oedd yn deall mai ychydig iawn o ddieithriaid a ddysgwylid yno, ac yn tybied y gelwid arno, fe allai, rywbryd yn ystod y cyfarfod i bregethu, ac felly yn teimlo yn hytrach yn ofnus. Erbyn cyrhaedd yno, llai hyd yn nod nag a ddysgwylid oedd o weinidogion dieithr wedi dyfod ynghyd, ac, yn arbenig, yr oedd Mr. Michael Roberts, o Bwllheli, am yr hwn yr oedd dysgwyliad mawr, wedi ei attal gan ryw amgylchiadau i ddyfod yno. Ni a'i clywsom ef yn dywedyd iddo, pan y clywodd ei enw yn cael ei ddarllen i bregethu yn gyntaf oll, y prydnawn hwnw ar y maes, deimlo rhywbeth yn dyfod drosto fel nad oedd wedi sylwi pwy oedd i bregethu gydag ef, na phwy oedd i bregethu drannoeth. Gan ein bod ni yn dygwydd bod yn y Gymdeithasfa hono, ni a ddodwn i lawr yma drefn y gwasanaeth cyhoeddus yno. Y prydnawn cyntaf pregethodd John Jones ar Psalm cxxxix. 7; a Richard Davies, o Gaio, ar Hosea xiv. 8. Boreu drannoeth am chwech, pregethodd Benjamin Williams ar Esaiah lv. 4. Am ddeg ar y gloch, pregethodd William Jones, Rhuddlan, ar Jeremiah viii. 22; a Richard Davies, Caio, ar Actau xi. 23. Am ddau ar y gloch, pregethodd Watkin Williams ar 1 Cor. vi. 11, a Mr. Elias ar Luc xiv. 18. Cyhoeddid William Jones, Rhuddlan, a Mr. Lloyd, Caernarvon, i bregethu yn yr hwyr, a Mr. Richard Owen, Caernarvon, ond y pryd hyny o Athrofa Cheshunt, i bregethu yn y Saesonaeg gydâ hwynt. Ond bu raid i ni ymadael cyn yr oedfa hono. Dyma y tro cyntaf erioed i John Jones bregethu mewn un math o Gymdeithasfa. Ei adroddiad ef am ei bregeth ei hunan y pryd hwn ydyw "caled." Ac, yn ol y côf sydd genym, felly, ni a dybiem, yr oedd y gynnulleidfa yn lled gyffredin yn teimlo. Yr oedd yn hir yn llefaru