Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn llais llawer rhy isel i'w glywed gan fwy na hanner y dorf. Yr oeddem ni yn dygwydd bod yn agos iawn i'r stage, ac yn clywed pob gair o'r dechreuad: ond, ar y cyntaf, yr oedd yn siarad mor isel fel nad oeddem ni, er ein bod yn ymyl, ond prin yn ei glywed. Yn raddol siaradai yn uwch ac uwch ac uwch, a chyda nerth mawr, nes y gellid ei glywed yn hawdd o bellder dirfawr. Ni a glywsom ei brïod yn dywedyd, iddi hi a chymmydoges iddi, feddwl yn Nhalsarn, y boreu hwnw, am fyned i Sassiwn Sir Fôn, i Langefni. Cerddasant o Dalsarn i Gaernarfon; ac, yna, o Dal-y-foel i Langefni. Fel yr oeddent yn nesau at Langefni, ond eto yn nepell o'r dref, ebai Mrs. Jones wrth y wraig a gyd-gerddai â hi—"Dyna lais John Jones; glywch chwi mo hono?" Yr oedd hi yn clywed y llais yn eithaf eglur yr holl bellder; ac nid yn unig yn clywed rhyw swn, ond yn sicr yn ei meddwl mai llais ei gŵr ydoedd. Erbyn i'r ddwy gyrhaedd y maes, lle y pregethid, yr oedd John Jones yn gorphen ei bregeth. Clywsom ef yn fynych yn sôn am y bregeth hon yn Llangefni. Dywedai na bu nemawr o weithiau erioed yn ceisio pregethu gyda llai o hyfrydwch iddo ei hun, beth bynnag am boen i ereill. "Mi a edifarhëais," meddai, "cyn pen pum' mynyd ar ol dechreu, i mi gymmeryd y testyn hwnw. Mi a welais, ar unwaith, nad oedd y bregeth oedd genyf fi arno yn gyfaddas i'r fath gynnulleidfa; ac er fy mod yn meddwl rhywbeth o honi, ac yn neillduol o rai sylwadau oedd genyf ynddi, ac i mi ddarllen y testyn, yn wir, oblegyd y meddwl hwnw, buasai pregeth lawer iawn llai, ond o nodwedd wahanol, yn annhraethol well yn y fath le. Yr oedd yn llawn bryd genyf ddyfod i ben a hi ryw ffordd; ac ar ol darfod prin yr oeddwn yn gwybod pa beth oeddwn wedi ddyweyd neu beidio ei ddyweyd." Mae lliaws o'r rhai oeddent yn y Gymdeithasfa hono yn fyw eto, ac yn cofio yn dda, yn ddiammeu, am y bregeth hono: ond prin, hwyrach, fod neb o honynt wedi dychymygu fod y pregethwr, a roddai y fath foddhad iddynt hwy, yn y fath deimladau profedigaethus ei hunan ar y pryd.

Yn ddioed wedi y Gymdeithasfa dychwelodd i Dalsarn, gan ymroddi yn adnewyddol i'w lafur gyda'r efengyl yn Sabbothol ac yn wythnosol. Yn y mis Medi canlynol, aeth ar daith trwy Siroedd Dinbych a Fflint. gan ddechreu yn Llanrwst, Medi 7, a therfynu yn Nhrefriw, Medi 24. Yr oedd wedi bod o'r blaen yn Sir Ddinbych, ond dyma y tro cyntaf iddo fod yn Sir Fflint. Yr oedd y daith hon yn un dra phwysig yn