Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hanes ef, oblegyd mai dyma y pryd y daeth am y tro cyntaf i gyfarfyddiad uniongyrchol â rhai a fuant wedi hyny, hyd ddiwedd ei oes, yn mhlith ei gyfeillion penaf, ac y cafodd eu cymdeithas âg ef gryn fesur o ddylanwad ar ei syniadau am wirioneddau yr efengyl,-y Parch. Robert Roberts, Rhosllanerchrugog; y Parch. John Hughes, Wrexham, wedi hyny, Liverpool; a Mr. Thomas Evans, Maes-y-coed, Caerwys. Yr oedd y rhai hyn yn wahanol iawn i'w gilydd o ran eu doniau a'u tymherau naturiol; ond yr oeddent yn gyfeillion calon, ac yn cytuno i gymmeryd golwg fwy rhydd ar drefn yr efengyl, ar gyfer byd euog, nag a ganiateid gan lawer o'u brodyr, yn neillduol rhai brodyr yn eu Cyfarfod Misol eu hunain; ac felly yr oeddent eu tri yn cael eu drwgdybio, gan lawer, megis rhai heb fod yn gwbl "iach yn y ffydd."

Yr oedd Mr. Roberts yn ŵr o synwyr naturiol cryf; yn ysgolhaig Cymraeg rhagorol, ac yn hynod gydnabyddus â hynafiaethau Celtaidd; o feddwl tra athronyddol, ac yn ymhyfrydu mewn cwestiynau arddansoddol; ac yn rhy barod, fe allai, i ddwyn y cyfryw gwestiynau i'r pulpud, ac i'w ymddiddanion â dynion cyffredin, a hollol ddieithr i'r fath bethau, yn nhai y capeli. Yr oedd wedi darllen ac astudio yn fanwl iawn brifysgrifeniadau Mr. Jonathan Edwards, yn argraffiad y Dr. Williams, gyda'i Nodiadau ef arnynt; ac, yn neillduol, wedi gwneyd prif lyfrau Dr. Williams ei hunan yn eiddo hollol iddo ei hun. Am ran fawr o'i oes yr oedd yn ddysgybl trwyadl i'r Doctor, ac yn cofleidio ei syniadau ef yn gwbl. Ac nid yn unig hyny ond yr oedd yn gosod pwys mawr arnynt, gan eu hystyried fel yr unig dir diogel i wrthsefyll Arminiaeth. Yn ei flynyddoedd diweddaf, yr oedd wedi myned yn hytrach yn amheus o hono mewn rhai pethau; yn neillduol yr oedd yn amheu a yw Dr. Williams yn rhoddi y lle a ddylai i'r "efengyl," i'r "gair," fel moddion ailenedigaeth; tra, ar yr un pryd, yr oedd fel un yn ofni symud dim oddiar ei hen olygiadau, rhag anafu dim ar Galviniaeth bur. Yr ydym yn cofio yn dda mai dyma destyn yr ymddyddan, ac ystyr ei sylwadau, y tro diweddaf y cawsom ni gyfarfod âg ef. Ond fel yr oedd yn groes iawn i Arminiaeth, ar y naill law, yr oedd gelyniaeth annghymmodlawn rhyngddo âg Uchel-Galviniaeth, ar y llaw arall; a dywedai yn fynych fod y naill fel y llall yn cytuno i daflu rhwymedigaeth a chyfrifoldeb dyn oddiar eu sylfeini priodol gan eu gosod i orphwys ar ras Duw. Yr oedd efe yn dyfod yn fynychach i gyfarfyddiad â rhai a dybid ganddo ef yn Uwch-Galviniaid nag y byddai âg Arminiaid, ac