Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly ymosodid yn amlach ganddo ar y blaenaf nag ar y rhai olaf; ac eto byddai y naill fel y llall yn ei chael yn eu tro. Wedi i ni ddechreu ysgrifenu y sylwadau hyn, dywedodd un cyfaill wrthym, "Ni chlywais i neb erioed fel Mr. Roberts, Tan-y-clawdd, ond Mr. Michael Jones, Llanuwchllyn mewn un bregeth fe fyddai yn fwy Calvinaidd braidd na neb; ac yn y bregeth nesaf, hwyrach, yn disgyn i rywbeth fyddai yn edrych yn bur debyg i Arminiaeth." Yr oedd ei wendid mwyaf ef yn y dull a gymerid ganddo i draethu ac i amddiffyn ei syniadau. Yn ei onestrwydd a'i frwd-frydedd byddai yn rhy aml braidd yn gecrus, ac yn fynych yn arfer rhai ymadroddion nas gellid mewn un modd eu cyfiawnhau, ac yn tueddu yn hytrach i ddiystyru ei wrthwynebwyr, ac felly yn fwy i gynhyrfu eu teimladau drwg nag i'w hennill drosodd i'w olygiadau ei hunan. Yr oedd efe ei hunan yn dra ymwybodol o'r gwendid hwn, ac yr oedd yn peri llawer o ofid iddo: ond yr oedd rywfodd mor naturiol iddo, fel pa bryd bynag y delai i gyfarfyddiad â'r syniadau a annghymmeradwyid ganddo, nid yn unig yn cael eu hòni gan wrthwynebwr byw o'i flaen, eithr ar ganol ei ymdriniaeth â'i bwnge ei hunan yn y pulpud, yr oedd yn ymddangos fel pe nas gallai ymattal, ac yn syrthio ar unwaith i'r hyn yr oedd mor chwannog iddo. Er esiampl:-yr ydym yn cofio am dano un Sabbath, yn y Bala, yn cyd-bregethu â'r diweddar Barch. William Morris, Tŷ Ddewi. Yr oedd yn pregethu ar Gyfiawnhad. Fe brofodd yn nodedig o alluog, trwy ddyfynu a chymharu lliaws o adnodau, yn yr Hen Destament a'r Newydd, fod y gair i'w ddeall mewn ystyr gyfreithiol, pan y sonir am gyfiawnhau pechadur, gan ddynodi cyfnewidiad ar ei gyflwr yn ngwyneb deddf, ac nid cyfnewidiad ar ansawdd ei galon tuag at y ddeddf. Pan yn sylwi ar berthynas "ffydd" â "chyfiawnhad," gan ddilyn Dr. Williams a'r hen Galviniaid, dadleuai mai un o blant yr "ailenedigaeth" ydyw "ffydd;" a chan fod y pechadur yn cael ei gyfiawnhau trwy ffydd," y rhaid fod "ailenedigaeth" o flaen "cyfiawnhad." Yna tybiodd y gwrandawwyr yn cyfodi gwrthddadl yn ei erbyn oddiwrth eiriau Paul,-" Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyf iawnder." "Ie," meddai, " ond y mae yr adnod yna yn cyfeirio at eu cyflwr blaenorol ac nid at yr hyn oeddent ar y pryd." "Sut y gwyddoch chwi hyny?" Yma, ar unwaith, ni a deimlem fod y pregethwr yn cael ei golli yn y dadleuwr. "Sut y gwn i? hwyrach,