Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/168

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os gwnewch chwi wrando, y cewch chwi weled sut yr ydwy' i yn gwybod. A fedrwch chwi ddarllen ? Trowch i'r Efengyl yn ol Matthew, yr unfed-bennod-ar-ddeg, a'r bummed adnod. A gaf fi ei darllen hi i chwi? Y mae'r deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed; y mae'r meirw yn cyfodi, &c.' Ydych chwi yn meddwl, wrth ddarllen adnod fel yna, fod y deillion yn gweled, a'r cloffion yn rhodio, a'r byddariaid yn clywed, a'r meirw yn cyfodi?" "Ydych chwi yn myned i wadu y Bibl, ac i daeru yn erbyn y Bibl?" "Nag ydwy' i: ond 'd' ydych chwithau ddim yn myn'd i daeru â minnau, eu bod nhw yn ddeillion pan oeddent yn gweled, ac yn fyddariaid pan oeddent yn clywed. Yr ydych yn ddigon call, mi a obeithiaf, i ddeall mai y meddwl ydyw, fod y rhai oeddent ddeillion yn gweled, a'r rhai oeddent fyddariaid yn clywed; ac, er fod y geiriad yn yr amser presennol, eto fod y cyfeiriad at eu cyflwr blaenorol. Ydych chwi yn gweled yrŵan sut yr ydwy' i yn gwybod mai yr un peth oedd yn meddwl Paul wrth ddyweyd fod Duw yn cyfiawnhau yr annuwiol?'" "Wel, ïe, on'd' ydy' o yn dweyd yn eglur, 'cyfiawnhau yr annuwiol?'" "On'd' ydy' o yn dweyd mor eglur fod 'y deillion yn gweled?' Ydych chwi ddim yn gweled?-'cyfiawnhau yr annuwiol."" "Ydych chwithau ddim yn gweled—'y cloffion yn rhodio,' 'y meirw yn cyfodi ?'"' "Cecraeth ydyw peth fel yna i gyd." "D ydy' o ddim mwy o gecraeth gen i nag ydy' o ganddoch chwithau, yr Iuddewon Cymreig." Nid ydym wedi gallu rhoddi yr adroddiad ond yn anmherffaith iawn; eithr fe wasanaetha fel engraifft o'r dull yr ydoedd yn rhy dueddol iddo, ag oedd yn peri y tro hwn, pa beth bynnag a ddywedir am y golygiad y dadleuai drosto, i bregeth dra rhagorol gael ei hanafu yn ddirfawr.

Yr oedd Mr. Roberts wedi ei eni yr un flwyddyn a Mr. Elias, ac yr oeddent yn fynych yn dyfod i gyfarfyddiad â'u gilydd yn y Cymdeithasfaoedd, ac nid yn anfynych yn taro yn gyfeillgar y naill yn erbyn y llall. Ac er nad oedd un gymhariaeth rhyngddo â Mr. Elias fel pregethwr, eto ni a dybygem ei fod yn naturiol yn feddyliwr mwy manwl nag ef, ac, o fewn y cylch cyfyngach a gymmerasid ganddo iddo ei hunan, wedi llafurio yn galetach a chasglu gwybodaeth helaethach nag ef: ac yr oedd rhyw ffraethder parod yn ei atebion, mewn ymddyddanion cyffredin, na feddai yr areithiwr mawr ddim o hono