Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/169

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn cofio amryw esiamplau o hyny. Ryw bryd, mewn Cymdeithasfa yn Nghaernarvon, rhoddid annogaeth i bregethwyr ieuainc, ac i bawb ereill, wrth ymdrin â phethau crefyddol, beidio defnyddio geiriau annealladwy i'r werin, ond ymgadw mor agos ag y gellid at iaith y Bibl, ac at y geiriau sydd wedi eu hir gysegru gan arferiad yr eglwys Gristionogol. Daeth hyn i mewn wrth ddechreu sylwi ar y pwnc oedd ar y pryd yn destyn ymddyddan,—AILENEDIGAETH. Wrth draethu ar y mater, sylwai Mr. Elias, mai "nid cyfnewidiad ar alluoedd yr enaid ydyw, nid rhoddi cynneddfau newydd i ddyn; ond cyfnewidiad ar ansawdd foesol y galon, cyfnewidiad ar naws yr enaid." "Be' ydy' naws?" meddai hen flaenor, o ganol y llawr, y diweddar Hugh Morris, y Fachwen, tad y diweddar Barch. Morris Hughes, Felinheli. "Dyna fi ar unwaith wedi troseddu," meddai Mr. Elias. "Ychydig fynydau yn ol yr oeddwn i yn annog fy mrodyr i ymgadw at eiriau ysbrydoliaeth, a phwy a gafwyd yn euog gyntaf ond fi fy hunan." "Nid oes dim euogrwydd," meddai Mr. Cadwaladr Williams, "ond lle byddo pechod: 'cyflog pechod yw marwolaeth;' ac nid oes dim pechod lle na byddo deddf wedi ei thori: Lle nid oes deddf nid oes gamwedd;' ae nid ydyw 'naws' yn tori unrhyw ddeddf. Mae 'naws' yn gwbl ysgrythyrol. Mae 'naws' mor ysgrythyrol a 'ffydd.' Ymchwelwch, feibion gwrthnysig. "Gwrthnysig'-nid 'gwrthunysig,' fel yr oedd rhyw un yn ei esbonio: ond gwrthnysig; gwrthnaws; naws; 'meibion gwrthnysig': rhai a'u naws yn groes i gyfraith ac ewyllys a chyfammod Duw. Mae 'naus' yn hollol ysgrythyrol." "Ond be' ydy' naws?" meddai Hugh Morris drachefn. "Mae Mr. Williams wedi dangos," meddai Mr. Elias, gan wenu, "nad ydwyf fi ddim cymmaint pechadur ag yr oeddwn i wedi cymmeryd fy mod. Naws' ydyw ansawdd, tymher, natur dda neu ddrwg y galon, mewn ystyr foesol ac ysbrydol; yr hyn a alwai y Sais, hwyrach, yn inclination." Ar hyny, cododd Mr. Robert Roberts ar ei draed, a dywedodd, "disposition, Syr, ydyw 'naws;' tuedd, neu ogwydd, ydyw inclination. Mae y naill yn gorwedd yn ddyfnach na'r llall, ac yn golygu yr hyn sydd yn cyfansoddi yr elfenau yn anianawd enaid dyn, oddiar yr hyn y mae y cyfeiriad neillduol a ddangosir ganddo at dda neu at ddrwg yn cyfodi. Ai nid oedd rhyw olwg ar hyny gan yr Apostol, pan y mae yn son am 'ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl?'" "Diolch yn fawr i chwi, Mr. Roberts; dyna ddigon o oleuni ar 'naws' beth bynag." Ac yna fe aeth