Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pennillion–marwolaeth ei gyfaill, Mr. John Robert Jones, Bangor–rhai adgofion am Mr. Jones–Llythyr Mr. John Jones at ei weddw alarus–Mr. John Jones a Chyfarfod Misol Arfon–taith i'r Deheudir, yn y flwyddyn 1846–adgofion am y daith hono–Llythyr o'i eiddo at ei Frawd yn yr America–taith eto i'r Deheudir, 1847— adgofion am dani–Oedfa hynod yn Nghymdeithasfa Caerfyrddin–eto yn Nghymdeithasfa Aberteifi–Cymdeithasfa Liverpool, 1848–Cymdeithasfa y Bala, 1848— taith i Sir Drefaldwyn yn 1849–Cyfarfod Misol yn Nghaersws–taith drachefn i'r Deheudir, i Gymdeithasfa Tŷ Ddewi, 1849–Llythyr at Mr. Jones, Ynysgain, wedi marwolaeth ei briod–llafur diorphwys gartref ac oddicartref.

PENNOD XIII.

BLYNYDDOEDD EI AROLYGIAETH AR GLODDFA DOROTHEA: 1850–1852.

Ei dreuliadau teuluaidd yn cynnyddu—yn ymuno ag ereill i brynu Cloddfa—pryder yn nghylch llwyddiant yr anturiaeth yn peri iddo ymgymmeryd â'i harolygiaethy gweithwyr yn cwyno–eglurhad y Parch. Robert Jones, Llanllyfni, ar yr amgylchiadau–ei bryder yn nghylch y Gloddfa yn effeithio i raddau ar ei Weinidogaeth—mwy wedi ei wneyd o hyny nag y mae ffeithiau ei hanes yn ganiatau–enghraifft o un o'i bregethau yn y tymhor hwn–yn cyfarfod â Damwain dost, ac yn cael gwaredigaeth ryfedd yn rhoddi heibio arolygiaeth y Gloddfa, ac yn ymroddi gydag egni newydd i wasanaeth yr Efengyl

PENNOD XIV.

BLYNYDDOEDD DIWEDDAF EI EINIOES: 1853 1857.

Ymroddi gydag egni adnewyddol i'r Weinidogaeth–Cymdeithasfa Liverpool, y Sulgwyn, 1853—Cyfarfod Pregethu yn Amlwch–Llythyr at y Parch. Samuel Roberts, Bangor, ar farwolaeth ei Wraig–ymroddi i Ganu, ac yn cyfansoddi llïaws o Dônau Cynnulleidfaol–sylwadau Mr. Morris Davies arno fel Cerddor–ymweliad â Liverpool a Manchester, Chwefror, 1854–Cymdeithasfa Llanerchymedd, yn mis Mawrth—taith trwy ranau o Siroedd Meirionydd, Dinbych, a Fflint, yn mis Mai–taith i'r Deheudir yn Hydref a Tachwedd, 1855–taith i Sir Feirionydd yn Rhagfyr–ymdeimlo yn ddwys â pheryglon Cymru oddiwrth Babyddiaeth ac Anffyddiaeth–cyhoeddiad' "Addysg Chambers i'r Bobl" yn y Gymraeg–ei sylwadau arno–ymosodiadau arno trwy y Wasg–ei ymweliad diweddaf â Liverpool, Ionawr, 1856–ei ymweliad diweddaf â Llundain at y Pasg–Cyfarfodydd Pregethu yn y Dyffryn ac yn Nolgelleu yn mis Mehefin–taith i Sir Drefaldwyn yn Hydref a Thachwedd y Gymdeithasfa ddiweddaf iddo, yn y Wyddgrug, yn mis Rhagfyr–ei iechyd yn anmharu—parhau i lafurio—ei bregeth ddiweddaf

PENNOD XV.

EI GYSTUDD DIWEDDAF A'I FARWOLAETH: Mawrth–Awst, 1857.

Ei afiechyd yn cymmeryd gwedd mwy peryglus nag a dybid–ymattal oddiwrth bob llafur–bwriadu myned i Manchester at Pasg–yn methu, ac yn aros yn Rhylgwaelu yno–dychwelyd gartref i Dalysarn–ymroddi i'r gwely–cyfansoddi Tônau yn ei gystudd edrych dros ei bregethau a'u trefnu yn sypynau–ei Fab yn ysgrifenu