Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagddo i draethu yn oleu ac yn nerthol iawn ar lygredigaeth naturiol y galon ddynol, a'i gwrthwynebiad greddfol, gwreiddiol, i sancteiddrwydd. "Ac yn awr," meddai, "y mae lladd casineb gelyn mor fawr, puro serchiadau creadur mor halogedig, adferu ffyddlondeb i galon mor wrthryfelgar, yn beth mor fawr, yn beth mwy na gwneyd ceffyl yn ddyn; yn beth nas gall neb ond y Creawdwr ei hunan ei ddwyn i ben." Dyna Mr. Roberts ar ei draed drachefn. "Mae yna radd o gloffni yn y gymhariaeth, Syr. Fe fuaswn i yn hytrach yn dywedyd fod y gwaith mawr, a ddarluniwyd genych chwi mor ragorol, yn beth mor fawr a gwneyd cythraul yn angel-cythraul melldigedig yn uffern, yn angel glân yn y nefoedd." "Diolch yn fawr i chwi, Mr. Roberts, yr ydych chwi yn deall Rheolau Rhetoric yn well na mi; ond yr oeddech chwi yn cael amser i feddwl tra yr oeddwn i yn siarad." fy nhafod," meddai Mr. Roberts, "ei ateb, fod eisiau meddwl cyn siarad; ond yr oedd e wedi siarad mor dda fel y cefais ras i ymattal." Byddai yn dra hoff o gael cyfleusdra têg i feirniadu ychydig ar Mr. Elias. Ac nid oedd hyny mor ryfedd, pan y cofir y dadleuon brwd yr oeddent wedi bod yn cymmeryd rhan mor arbenig ynddynt, a'r ddau, yn y rhai hyny, yn wastadol yn erbyn eu gilydd. Ond ni a gawn fyned at hyny eto.

Yr oedd Mr. Roberts yn cael ei gydnabod gan bawb a'i hadwaenent fel gŵr crefyddol iawn—yn nodedig felly; ac yr oedd, yn ei flynyddoedd diweddaf, yn amlwg yn cynnyddu mewn tynerwch ac ireidd-dra o ran ei ysbryd, ac mewn anwyldeb at, a pharchedigaeth gan, ei frodyr yn gyffredinol. Bu farw Awst 14, 1849, yn 75 mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu yr efengyl naw mlynedd a deugain. Yr oedd John Jones ac yntau yn hoff iawn o'u gilydd, o'r pryd cyntaf y cyfarfuasant ar y daith gyntaf hon iddo ef yn Sir Fflint, hyd nes i angeu eu gwahanu.

Ar y daith hon hefyd y cyfarfu yn gyntaf oll â'r diweddar Barch. John Hughes, Liverpool, i gael dim cydnabyddiaeth neillduol âg ef. Yr oedd hyny, Medi 15, 1825, drannoeth wedi iddo gyfarfod gyntaf â Mr. Roberts. Aeth Mr. Roberts gydag ef o Dan-y-clawdd, lle y lletŷai, i'r Adwy yn y boreu, ac i Wrexham at yr hwyr. Yr oedd Mr. Hughes y pryd hyny yn cartrefu yn Ngwrexham, ac yn cadw ysgol yno. Yr oedd cryn fri yn marn y wlad ar yr ysgol hono, yn gymmaint ag y byddai amryw bregethwyr, o'r gwahanol Siroedd yn Ngogledd Cymru, yn myned yno i dderbyn eu haddysg. Edrychid arni felly fel math o