Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/172

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

au lled ëang. Byddai Mr. Roberts yn fynych yn ymliw âg ef oblegyd hyn, ac oblegyd na buasai yn fwy gwrol ac anturus ac ymladdgar, ac yn cymmeryd mantais gyson ar y cyfleusderau cyhoeddus a roddid iddo yn fynych yn y Cymdeithasfaoedd, i ymosod yn fwy penderfynol yn erbyn yr ysbryd Antinomaidd, a gredid ganddo ef, oedd yn ffynu yn y wlad, ac yr oedd y pregethau Uchel-Galvinaidd, a draddodid gan rai o'r brodyr, yn faeth ac yn nerth iddo. "Nid ydych," meddai wrtho, unwaith yn ein clyw ni, " ddim hanner mor ddewr â Phillips (y Parch. John Phillips, Bangor, wedi hyny). Mae cwffio yn Phillips, ond nid oes dim ynoch chwi." Ond, i'r graddau ag yr oedd Mr. Hughes yn ystyried fod rhyw wyrni yn ngolygiadau rhai o'r brodyr, yr oedd yn ystyried hefyd fod y dull a gymmerid ganddo ef yn llawer mwy effeithiol tuag ei unioni, na'r dull a gymmeradwyid, a gymhellid, ac a arferid gan Mr. Roberts. Yr oedd efe yn amcanu yn mhob pregeth cyflwyno ger bron ei wrandawwyr, a hyny yn y modd mwyaf deniadol ag y gallai, egwyddorion ag na byddai yn ddichonadwy i syniadau cyfyng am drefn yr efengyl, na golygiadau gŵyr-gam ar rwymedigaeth a chyfrifoldeb dyn, gyd-fyw na chyd-fod â hwynt yn y meddyliau a'u derbyn. ient. Ac, yn ei ymddyddanion cyffredin, pan y treiglai at gwestiynau o'r fath, yr oedd rhyw allu anarferol ganddo i daflu rhyw awgrymiadau i feddyliau y rhai y cyfeillachai â hwynt, a'u harweiniai, braidd yn ddiarwybod iddynt eu hunain, eto yn anocheladwy, i'r cyfeiriad y mynai efe iddynt ei gymmeryd. Ac, yn y dull distaw hwn, yr ydym yn tybied iddo wneyd cymmaint ag odid neb, oddieithr John Jones ei hunan, i gyfnewid gwedd y weinidogaeth, yn y Cyfundeb y perthynai iddo, i'r ffurf fwy ymarferol sydd arni yn awr yn ein mysg. Bu farw Awst 8fed, 1860, yn 63 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am dros yspaid saith mlynedd a deugain.

Y cyfaill anwyl arall, a ennillwyd ganddo ar y daith hon, y cyfeiriasom ato, oedd Mr. Thomas Evans, Maes-y-coed. Nid oedd efe yn bregethwr. Blaenor ydoedd yn Nghaerwys, lle y gwasanaethodd y swydd hono yn ffyddlawn ac yn effeithiol am flynyddoedd lawer. Yr oedd ei dduwioldeb personol, ei gydnabyddiaeth helaeth a manwl â'r Ysgrythyrau Sanctaidd, ac, yn neillduol, ei ddawn annghyffredin i holi cwestiynau, ac i arwain yr ymddyddan mewn cymdeithas, yn peri fod ei wasanaeth yn y cyfarfodydd eglwysig yn nodedig o werthfawr. Gan ei fod yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel un o'r dynion callaf a