Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/173

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chraffaf a mwyaf crefyddol, yn mhob cylch y tröai ynddo, yr oedd yn ŵr o ddylanwad mawr yn Nghyfarfod Misol y Sir y perthynai iddi, ac felly hefyd yn y Gymdeithasfa Chwarterol. O ran cydnabyddiaeth âg Awdwyr Duwinyddol diweddar, megis Jonathan Edwards, Dr. Bellamy, Dr. Dwight, Dr. Williams, Andrew Fuller, ac ereill, nid oedd odid un yn mhlith yr hen bregethwyr i'w gystadlu âg ef, ac yn ddiddadl nid oedd cymmaint ag un o honynt yn rhagori arno. Yr oedd wedi dechreu ar y cylch hwn o efrydiaeth pan ydoedd tua deunaw mlwydd oed, a pharhaodd arno yn gyson a diflino am dros driugain mlynedd. Ac eto nid oedd yn ei rwymo ei hunan yn gaeth wrth unrhyw awdwr. Dygai bob peth a ddarllenai at y Gair Sanctaidd i'w brofi; a theimlai yn ddigon annibynol i ymadael â'i Awdwyr anwylaf, pan y tybiai eu bod hwy yn ymadael â Gair Duw. "Mae Mr. Hughes, y Limner," meddai wrthym unwaith, "yn dywedyd mai Cyffes Ffydd y Wesleyaid, ydyw,—Pob gair a ddaeth allan o enau John Wesley:' mi ddymunwn innau, yn wir, fod heb yr un System o gwbl, yn hytrach nag un na byddai digon o le ynddi i 'bob gair a ddaeth allan o enau Duw.'" Yr oedd John Jones yn teimlo braidd yn bryderus ar y daith hon, pan yr oedd yn nesau at Gaerwys, o gymmaint a bod llawer o siarad y pryd hyny fod amryw yn yr eglwys yno yn wŷr galluog a dysgedig, a chyda hyny yn cael eu cyhuddo o fod wedi llyngcu yr hyn a elwid y "Pwnc neu y System Newydd;" ac, yn neillduol, yr oedd wedi clywed llawer o sôn am Mr. Thomas Evans. Aeth yno, pa fodd bynnag, a phregethodd un o'r pregethau mwyaf Calvinaidd ag oedd ganddo, oddiar Psalm cxvii. 2. Yr oedd yn gwneyd hyny yn fwriadol; rhag i neb gael achlysur i ddwyn unrhyw gyhuddiad yn ei erbyn ef. Cafodd gyfarfod nodedig o hwylus a dylanwadol, pawb wrth eu bodd yn gwledda ar yr hen efengyl; ac wedi yr oedfa, a'r noswaith hono, fe ddechreuodd cyfeillgarwch cynhes a diffuant a pharhaus rhyngddo â Mr. Thomas Evans, a gydnabyddid ganddo ef ei hunan fel digon o dâl, pe na chawsai ddim arall, am fyned i'r daith hono.

Yr ydym wedi aros yn hwy nag y bwriadem gyda'r crybwylliadau hyn am y cyfeillion a ennillodd yn y daith hon: ond nid ydym wedi bod yn rhy hir i'r lle uchel oedd iddynt yn ei serchiadau ef, ac i'r dylanwad a gafodd ei gydnabyddiaeth â hwynt ar ei feddwl. Gyda golwg ar bregethu y daith hon, fe gafodd rai cyfarfodydd hynod o lewyrchus a thra effeithiol; ac ambell un yn hynod fel arall i'w deimladau ef. "Y mae yn