Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/174

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sir Flint," meddai, "rai lleoedd mor hawdd pregethu ynddynt ag a geir mewn un Sir yn Nghymru: ond y mae yno rai lleoedd ereill ag sy'n cyfiawnhau ei henw i berffeithrwydd. A fuoch chwi erioed yn treio pregethu yn * * * * * *? Mi a wn o'r goreu, os buoch, na wnaethoch chwi ddim o honi. Y mae nhw yn galed yno fel y gallestr."

Wedi dyfod adref o'r daith hon, penderfynodd beidio myned i un cyhoeddiad allan o'i Sir ei hunan am rai misoedd beth bynnag, gan ei fod yn teimlo fod teithio felly oddicartref yn anfanteisiol iawn iddo i barotoi pregethau newyddion, ac yn enwedig i lafurio am wybodaeth gyffredinol, yn yr hyn yr oedd yn awr, trwy ryw amgylchiad neillduol, wedi dyfod i'w weled ei hunan yn dra diffygiol. Yr oedd tua y pryd hwn, wrth bregethu yn Mangor, wedi gwneyd cryn gamgymeriad mewn rhyw gyfeiriad a wnelsid ganddo at Ddaearyddiaeth. Yr oedd rhywrai wedi sylwi ar hyny, ac wedi cymmeryd achlysur oddiwrtho i lefaru yn isel am ei wybodaeth gyffredinol. Pan y cafodd Mr. Robert Hughes a Mr. John Robert Jones, y rhai oeddent yn flaenoriaid yno, y cyfleusdra-y ddau yn gyfeillion arbenig iddo ef, ac yn meddwl yn uchel iawn am ei ddoniau gweinidogaethol—hwy a'i hysbysasant yn ddoeth ac yn garedig am y peth, gan, ar yr un pryd, ei gyfarwyddo at ryw lyfrau a allent ei hyfforddi yn fanylach. Cafodd feddwl newydd yn y fan. Penderfynodd hyd y gallai, yn yr amgylchiadau yr ydoedd ynddynt, na chai neb achlysur cwyno am ddim cyffelyb ynddo ef byth ar ol hyny. Dechreuodd ar unwaith weithio allan y penderfyniad hwn. Mynodd bob llyfr a allasai gael, yn yr iaith Gymraeg, a broffesai gyfarwyddyd ar y cyfryw destynau; ac ymroddodd i'w hastudio, nes y cyrhaeddodd wybodaeth helaeth a manwl am egwyddorion Daearyddiaeth, Seryddiaeth, ac Athroniaeth Naturiol yn ei hamrywiol gangenau, gwybodaeth helaethach, nid ydym yn petruso dywedyd, nag a feddiennir gan liaws o'r rhai a gawsant fanteision addysg rhai o'r ysgolion goreu yn y byd er ei sicrhau. Yr oedd yn teimlo ei hunan yn ddyledus byth i'r brodyr yn Mangor am y caredigrwydd hwn o'r eiddynt tuag ato, a sicrhawyd y cyfeillgarwch anwylaf rhyngddynt, yn neillduol rhwng Mr. J. R. Jones ac yntau, hyd eu marwolaeth.

Yr oedd arwyddion amlwg cynnydd arno o hyny allan fel pregethwr; ac yr oedd ei boblogrwydd erbyn hyn, yn Sir Gaernarfon, y fath fel nad oedd y capel, odid yn unlle, yn ddigon ëang i gynnwys y tyrfaoedd